Lluniau: Y gogledd dan fantell o eira...eto!
- Cyhoeddwyd
Jest fel roedd pawb yn dechrau ymlacio a dal i fyny ar eu cyflenwadau o laeth a bara ...mae'r eira yn ôl eto mewn rhai ardaloedd.
Beth am fwrw golwg ar rai o ddelweddau gaeafol dydd Iau, 8 Mawrth.


Dyma'r sefyllfa yn Aberdaron bore 'ma


Roedd rhai o staff Tŷ Silyn, Penygroes wedi beicio mewn cyn gorfod twrio'u ffordd at y swyddfa. Dyna i chi ymroddiad


Mae Sion Jones wedi llwyddo i ddal eira Abergele'n goleuo'r tywyllwch


"Whiiiii...."


Yr eira heb ei gyffwrdd eto wrth i'r haul godi yn Llanwnda


"Ond mam! Oes rhaid i ni fynd ar y sleds eto!"


"Tyrd Martha i ni gael mynd yn y camperfan i rywle cynhesach..." Pan fydd y ffyrdd yn Llanfairpwll wedi clirio!


Y jobyn cyntaf i llawer yn rhai o siroedd y gogledd heddiw


Penisarwaun yn llechu dan flanced wen


Mae braidd yn oer i hufen ia!


Mae hyd yn oed trefi arfordirol y gogledd wedi'i chael hi heddiw, fel sydd i'w weld yn yr ardd yma ym Mhrestatyn heddiw


Capan o eira ar y pyst yn Nhregarth ger Bethesda

Lluniau eraill o eira mis Mawrth 2018: