Adnodd i ddelio â phrofiadau plentyndod anodd

  • Cyhoeddwyd
plentyn unigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pecyn yn helpu athrawon i adnabod plant sy'n delio â phrofiadau plentyndod anodd

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael cynnig hyfforddiant fydd yn helpu disgyblion sy'n wynebu cyfnodau anodd.

Yn ystod plentyndod mae rhai plant yn wynebu tor perthynas, profedigaeth, cam-drin sylwedd neu gam-drin corfforol neu rywiol.

Mae'r prosiect eisoes wedi cael ei dreialu mewn tair ysgol yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gymorth Cymru Well Wales, Barnardo's Cymru ac NSPCC Cymru i baratoi'r pecyn hyfforddiant.

'Plant yn ffynnu'

Bydd modd i bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru ei lawrlwytho ac mae disgwyl y bydd ar gael ymhen rhai misoedd.

Bydd y pecyn yn ceisio canfod a yw staff yn gallu adnabod arwyddion o drawma a pha fesurau sydd gan ysgolion i ddelio ag emosiwn plant.

Dywedodd Julie Thomas, pennaeth Ysgol Gynradd Garth ym Maesteg, sef un o'r ysgolion sydd wedi treialu'r pecyn: "Yn aml mae plant yn ymddwyn mewn ffordd fwy ymosodol na'r hyn ry'ch chi'n ei ddisgwyl - weithiau maent i weld yn bell a phryd arall yn amharu ar y dosbarth.

"I mi dyw'r hyfforddiant ddim yn unig yn dysgu sut i ddelio â phlant unigol ond mae e hefyd yn cyfleu'r pwysigrwydd o greu awyrgylch lle mae plant yn ffynnu."

Fis Gorffennaf dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Bangor fod plant oedd wedi cael profiadau anodd ddwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio unedau damweiniau ac achosion brys ac yn fwy tebygol o ymweld â'r meddyg.

Mae'r pecyn wedi cael ei gyllido gan Gronfa Arloesedd Heddlu'r Swyddfa Gartref, Heddlu'r De a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.