Addysgu plant am roi organnau drwy rannu stori bachgen
- Cyhoeddwyd
Bydd stori bachgen ifanc gafodd ei lofruddio a wnaeth benderfynu rhoi ei organau yn rhan o becyn newydd i addysgu plant ynglŷn a'r pwnc.
Fe wnaeth rhieni Conner Marshall benderfynu rhoi ei organau ar ôl iddo ddweud ei fod yn dymuno gwneud hynny ddwy flynedd cyn iddo farw mewn ymosodiad.
Bu farw Mr Marshall, oedd yn 18 oed ac yn dod o'r Barri, mewn ymosodiad mewn parc carafanau ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi pecyn addysgol - fydd yn cynnwys stori Conner Marshall -ar roi organau ar gyfer pobl ifanc ysgol uwchradd sy'n astudio cyfnod allweddol 3 a 4.
Pan oedd yn 16 dywedodd Conner wrth ei fam y buasai'n fodlon rhoi ei organau ar wahan i'w galon a'i lygaid pe baen marw.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu pe bai person yn marw y base nhw'n fodlon rhoi organau os nad oedden nhw wedi dweud fel arall.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton fod "annog trafodaeth ynglŷn â rhoi organau yn allweddol i gynyddu'r nifer o bobl sy'n caniatáu i roi organau ac yn bwysicach, fod aelodau o deulu'r sawl yn deall ei dymuniadau.
"Mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn cael cymaint o wybodaeth ac sy'n bosibl, mewn ffordd sensitif a dymunol," meddai.
Mae sylwadau mam Conner, Nadine Marshall hefyd yn rhan o'r pecyn addysg.
Dywedodd Mrs Marshall: "Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yn gwrando ar bobl ifanc ac yn cael y cyfle i siarad ynglŷn â rhoi organau yn yr ysgol neu yn y coleg.
"Mae hi hefyd yn bwysig i bobl siarad gyda'r rhai sy'n annwyl iddyn nhw er mwyn i'w teuluoedd fod yn ymwybodol o'u penderfyniad, rhag ofn iddyn nhw fod mewn sefyllfa eithriadol o anodd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017