Ymchwilio i gyhoeddi cyfeiriadau e-bost personol Jones

  • Cyhoeddwyd
Y llythyr ymateb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC wedi cuddio cyfeiriadau e-byst personol Carwyn Jones

Mae Llywodraeth Cymru'n ymchwilio sut wnaethon nhw gyhoeddi cyfeiriadau e-bost personol y Prif Weinidog Carwyn Jones ar eu gwefan.

Cafodd dau gyfrif e-bost personol i Mr Jones eu cynnwys mewn llythyr gafodd ei gyhoeddi ar gofnod datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth y llywodraeth.

Ond pan wnaeth BBC Cymru gysylltu gyda'r llywodraeth ynglŷn â'r mater cafodd y cyfeiriadau eu tynnu i lawr.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymchwilio."

Roedd y llythyr yn ymateb i gais yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â negeseuon gafodd eu hanfon i gyfeiriadau e-bost personol y prif weinidog, a rhai yr oedd ef wedi anfon o'r cyfeiriadau e-bost hynny.

Rheolau gwarchod data

Gwrthod y cais rhyddid gwybodaeth gafodd ei wneud oedd y llythyr gan y llywodraeth.

Roedd y cais wedi gofyn i'r cyfeiriadau e-bost personol gael eu hepgor pe byddai yna benderfyniad i ryddhau'r wybodaeth.

Ond pan wnaeth y llythyr gwrthod ddyfynnu'r cais gwreiddiol, wnaethon nhw ddim cuddio manylion personol y prif weinidog.

Mae rheolau gwarchod data'n golygu bod manylion personol yn cael eu cuddio fel arfer pan mae mudiadau yn ymateb i geisiadau am wybodaeth.