Gwella darpariaeth iaith yn amod i gytundeb meddygon

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Fe fydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 1% dros y 12 mis nesaf ynghyd â chymorth i ymdopi gyda chostau cynyddol yswiriant meddygol.

Ond fel rhan o'r cytundeb newydd dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid i feddygon wella'r ddarpariaeth iaith Gymraeg sydd ar gael.

Mae'r cytundeb rhwng y llywodraeth, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd hefyd yn galw ar feddygon i wella mentora a hyfforddiant ac adolygu'r cynnig recriwtio.

Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â'r cytundeb cyflog mewn datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething ddydd Llun.

Diwygiad

Ar ben y newidiadau ariannol, cafodd newidiadau eraill i wella darpariaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol eu cytuno, yn cynnwys:

  • Gwerthuso'r Cynllun Denu a Chadw Meddygon;

  • Cytuno ar ffordd o fynd ati i wella hygyrchedd gwasanaethau;

  • Ymrwymiad i fonitro effaith symud i systemau TG eraill;

  • Llacio'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau er mwyn lleihau'r pwysau o'r llwyth gwaith.

Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r dull newydd hwn yn rhoi'r llwyfan inni ddiwygio'r contract presennol, i fynd i'r afael â materion o fewn y system ac i ddatblygu'r ymrwymiadau hynny y mae'r llywodraeth hon wedi'u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen, dolen allanol a Ffyniant i Bawb, dolen allanol."

Bydd y pecyn ar gyfer meddygon teulu yn golygu cynnydd o tua £27m yn y buddsoddiad gan y llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth.

Mae'r BMA, y mudiad sy'n cynrychioli meddygon teulu, wedi dweud fod y cytundeb yn un positif a fydd yn sicrhau fod y proffesiwn yn un cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd pwyllgor Cymreig meddygon teulu y BMA: "Mae'r cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i feddygfeydd o ganlyniad i'r cynnydd ariannol a'r cymorth gydag yswiriant...

"Fe fydd o hefyd yn amddiffyn adnoddau meddygfeydd fel eu bod ar gael ar gyfer gofal cleifion."