Pryder y gall newid technoleg wthio meddygon at ymddeol

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae sefydliad sy'n cynrychioli meddygon teulu yn pryderu y bydd nifer o'u haelodau yng Nghymru yn ymddeol yn gynnar yn hytrach na chael eu gorfodi i ddefnyddio system gyfrifiadurol newydd i reoli data cleifion.

Fe fydd y system sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd, EMIS, yn cael ei disodli o 2019/20 yn dilyn proses dendro.

Ond dywed Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu y gallai'r fath ad-drefnu gael goblygiadau mawr, yn enwedig mewn ardaloedd fel gogledd Cymru lle mae 'na ddefnydd helaeth o EMIS.

Yn ôl y gwasanaeth iechyd mae'r drefn dendro yn un deg, ac yn sicrhau fod y systemau yn rhai cyfoes.

'Pwysau ychwanegol'

Mae EMIS yn un o ddwy system sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru, gyda 45% o feddygfeydd yn ei defnyddio - a hyd at 75% yn y gogledd.

Mae'r rhaglen yn cael ei defnyddio i reoli a rhannu data cleifion.

Disgrifiad,

Dywedodd Dr John Gwynfor Evans ei fod yn pryderu y bydd "Cymru yn cael system eilradd"

Dywedodd Dr John Gwynfor Evans, meddyg teulu yn Sir Conwy am dros 25 mlynedd, y byddai'n ymddeol pe bai'r newidiadau yn mynd yn eu blaen.

"Fe fydd ganddo oblygiadau enfawr ar gyfer y meddygfeydd," meddai.

"Mae'n rhaid hyfforddi'r holl staff o fewn y meddygfeydd - y nyrsys, pobl y dderbynfa, gweithwyr gofal iechyd heb sôn am y meddygon.

"Pam yn y byd mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gwneud hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau rheng flaen."

'Angen sicrwydd'

Mae trefn dendro'r gwasanaeth iechyd yn digwydd pob pedair blynedd, a'r nod yw ceisio sicrhau nad yw technoleg yn dyddio.

Ar ôl i'r systemau llwyddiannus gael eu dewis, mae gan feddygfeydd yr hawl i ddewis oddi ar y rhestr honno.

Disgrifiad,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth meddygon teulu "dan ddigon o straen fel ag y maen nhw"

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, ei bod hi'n bwysig sicrhau fod staff meddygfeydd yn cael y dechnoleg orau a fwyaf modern, ond ei bod yn anodd i rai meddygfeydd wnaeth ond mabwysiadu trefn EMIS bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Mr ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Mae'n glir y bydd y newid sydyn yma yn cael effaith sylweddol.

"Dwi wedi clywed bygythiad y gallai meddygon teulu benderfynu ymddeol yn gynnar.

"Dwi'n gobeithio mai lleiafrif bach ydy hynny, ond oherwydd y pwysau ar staffio mae'n rhaid i ni gymryd pob her o'r math yna o ddifrif.

"Mae angen perffaith sicrwydd bod unrhyw newid yn gwbl angenrheidiol, a bod y camau iawn wedi eu rhoi mewn lle i wneud y newid mor llyfn â phosib."

Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (CBMT) pe na bai'r newid yn cael ei reoli yn gywir, y gallai gofal cleifion ddioddef.

Yn ôl Dr Rebecca Payne o'r CBMT: "I rai meddygon sy'n agos i oed ymddeol fe allai hyn fod yn ormod, ac ni allwn fforddio golli mwy o feddygon mewn gwasanaeth sydd eisoes dan bwysau.

"Fe allai'r newid greu problemau yn y gogledd lle mae'r gyfundrefn eisoes wedi cael ei disgrifio fel un sy'n wynebu argyfwng."

Safonau angenrheidiol

Mae systemau EMIS yn cael eu defnyddio'n helaeth yn y DU, gyda 5,000 o feddygfeydd y DU - 195 yng Nghymru - yn eu defnyddio ym Mehefin 2017.

Microtest fydd yn disodli EMIS, system sy'n cael ei ddefnyddio gan tua 100 o feddygfeydd yn y DU.

Dywedodd Gwasanaeth Gwybodeg y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, y corff oedd yn gyfrifol am y broses dendro, fod EMIS wedi tynnu'n ôl o'r broses dendro ar ôl methu a chwrdd â'r safonau angenrheidiol.

Dywedodd Andrew Griffiths o'r Gwasanaeth Gwybodeg: "Y tro olaf i ni ddefnyddio'r broses tua phump neu chwe blynedd yn ôl roedd angen i nifer o feddygfeydd newid systemau - dwi'n credu ei fod wedi effeithio 220 o feddygfeydd.

"Rydym wedi ei wneud o'r blaen, rwy'n gwybod ei fod yn achosi newidiadau a byddai'n well pe na bai'n digwydd ond rydym wedi cynllunio ar gyfer hynny."

Fe fydd defnyddwyr EMIS yng Nghymru nawr yn gorfod symud i systemau newydd rhwng 2019 a 2020.