Dirwy o £400 yn bosib i bobl Blaenau Gwent am dipio

  • Cyhoeddwyd
Tipio sbwrielFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai pobl sy'n gadael gwastraff yn anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent wynebu dirwy o £400 mewn ymgais i daclo'r broblem sydd ar gynnydd.

Yn 2016-17 cafodd y cyngor wybod am 845 o achosion o bobl yn tipio'n anghyfreithlon, 723 oedd y ffigwr y flwyddyn gynt.

Yn ystod yr un cyfnod roedd 38,614 achosion o bobl yn gadael sbwriel ar draws Cymru wnaeth gostio mwy na £2.1m i'w glirio.

Yn sgil pwerau newydd mae cynghorwyr eisiau rhoi'r ddirwy uchaf posib sef £400 ar y rhai sydd yn tipio.

Mae adroddiad gafodd ei gyflwyno i aelodau'r cabinet yn dweud bod 77 o erlyniadau llwyddiannus wedi bod ym Mlaenau Gwent rhwng 2007 a 2016-17.

Yn ôl y ddogfen mae'r darlun ar draws Cymru'n dangos bod nifer yr erlyniadau yn isel o'i gymharu â nifer yr achosion oherwydd ei bod yn anodd dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol, ac yn aml iawn maellygad-dystion yn gyndyn o fynd i'r llys.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ddirwy yn cael ei rhoi i bobl sydd yn tipio am y tro cyntaf

Ond mae'r adroddiad yn dweud bod gan Blaenau Gwent un o'r cyfraddau gorau am ddod o hyd i'r rhai sy'n tipio.

Nawr mae'r awdurdod lleol eisiau defnyddio pwerau newydd, sy'n caniatáu swyddogion roi diryw i unrhyw un sy'n cael eu dal yn gollwng gwastraff.

O dan y ddeddf newydd gall cynghorau rhoi diryw o rhwng £150-£400 a does dim rhaid iddyn nhw erlyn yr unigolion trwy'r llys.

Mae'r adroddiad gan swyddogion Blaenau Gwent am i'r cyngor gytuno i roi cosb o £400, fyddai'n cael ei leihau i £350 os bydd yn cael ei dalu o fewn 10 diwrnod.

Byddai'r gosb yn cael ei rhoi i droseddwyr sy'n tipio am y tro cyntaf.

Byddai ganddyn nhw wastraff o fwy nag wyth bag du neu hyd at gist car llawn, neu'n cael dirwy am adael un neu ddau o eitemau mawr fel dodrefn neu nwyddau trydanol sy'n cael eu defnyddio yn y cartref.

Os bydd Cyngor Blaenau Gwent yn cymeradwyo'r ddirwy mewn cyfarfod ddydd Mercher bydd y gosb yn dod i rym ar 1 Ebrill.