Ymchwiliad damwain awyren Fali laddodd dyn yn parhau
- Cyhoeddwyd
Parhau mae'r ymchwiliad i ddamwain awyren wnaeth ladd peiriannydd ac anafu peilot ar Ynys Môn ddydd Mawrth.
Cadarnhaodd yr Awyrlu bod un o beiriannwyr y Red Arrows wedi ei ladd yn y digwyddiad.
Ychwanegodd bod peilot yr awyren, math Hawk T1, wedi ei gludo i'r ysbyty am driniaeth. Nid oes mwy o wybodaeth am ei gyflwr.
Yn San Steffan ddydd Mercher, fe wnaeth Theresa May a Jeremy Corbyn roi teyrnged i'r dyn fu farw.
'Damwain drasig'
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dynion oedd y ddau oedd yn yr awyren, ond nid oes mwy o wybodaeth wedi ei ryddhau amdanynt.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd yr awyren yn ystod y prynhawn i gysylltu gyda nhw.
Yn Senedd San Steffan ddydd Mercher, rhoddodd y Prif Weinidog, Theresa May ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn deyrnged i'r peiriannydd fu farw yn y digwyddiad.
Dywedodd Mrs May: "Rwyf yn siŵr fod y Tŷ cyfan yn dymuno ymuno gyda mi i anfon ein cydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau'r peiriannydd fu farw ddoe."
Fe ychwanegodd Mr Corbyn: "Rydym yn dymuno adferiad buan i'r peilot gafodd ei anafu yn y digwyddiad."
'Cydymdeimlo'n ddwys'
Mewn datganiad, dywedodd Prif Farsial yr Awyrlu, Syr Stephen Hillier: "Mae'r ddamwain drasig yma'n ein hatgoffa na ddylwn ni fyth gymryd yn ganiataol y risgiau y mae pobl yn eu cymryd wrth wasanaethu ein gwlad.
"Rydw i'n cydymdeimlo'n ddwys gyda ffrindiau a theulu'r rhai gafodd eu heffeithio yn y cyfnod ofnadwy yma."
Y gred yw bod criw'r awyren wedi bod yn hyfforddi yn Y Fali ac ar eu ffordd yn ôl i'w pencadlys yn RAF Scampton pan ddaeth yr awyren i lawr.
Dywedodd un myfyriwr welodd y digwyddiad o orsaf drenau gerllaw bod yr awyren wedi "llosgi'n oren" pan ddaeth i'r ddaear.
Dywedodd Sian Rebecca Williams, 18 o Rosneigr: "Wrth i fi edrych mi welais barasiwt un o'r peilotiaid yn agor ac yna'r awyren yn taro'r llain lanio gyda chlec a sŵn malu.
"Wedyn mi wnaeth o losgi'n oren ac roedd mwg ym mhobman."
Mae'r cwmni sy'n hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, Eastern Airways, wedi cadarnhau bod teithiau'n cael eu dargyfeirio i Benarlâg ddydd Mercher.
Mae teithwyr yna'n cael eu cludo mewn bysiau yn ôl ac ymlaen i'r Fali.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018