Bale: 'Ennill tlws tra'n chwarae i Gymru yn enfawr'
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale yn dweud y byddai ennill tlws tra'n chwarae i Gymru yn "enfawr".
Ddydd Llun bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Uruguay yng Nghwpan China a hynny wedi iddynt drechu China o 6-0.
Fe sgoriodd Gareth Bale dair gôl - y gyntaf o fewn dwy funud i ddechrau'r gêm.
Dywedodd y byddai ennill tlws tra'n chwarae i Gymru yn fwy arwyddocaol nag ennill tlysau ar lefel clwb.
"Mae ennill tlws wastad yn dda, ond mae gwneud hynny tra'n chwarae i'ch gwlad wastad yn fwy arbennig.
"Fe fyddai hynny'n enfawr. Mae'r [dyhead] yn eich gwaed, yn eich calon, ry'ch am wneud y wlad gyfan yn falch ohonoch.
"Mae 'na lot o waith i'w wneud o hyd, mae'n mynd i fod yn her ond ry'n yn credu os ydyn ni'n chwarae'n dda y byddwn yn gallu ennill y gystadleuaeth."
Petai Cymru yn ennill fe fyddai Gareth Bale yn derbyn ei dlws rhyngwladol cyntaf ond hefyd dyma fyddai'r gystadleuaeth gyntaf i Gymru ennill yn llwyr ers Pencampwriaeth Prydain yn 1937.
Yn ystod y gêm ddydd Llun bydd Gareth Bale, sy'n rhan o dîm Real Madrid, yn chwarae yn erbyn Diego Godin o Atletico Madrid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018