Ystyried cynllun blaendal plastig yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Boteli plasticFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun blaendal ar draws Prydain ar gyfer boteli plastig a chaniau yn cael ei drafod, meddai Llywodraeth Cymru.

Daw hynny wrth i Ysgrifennydd Amgylchedd Lloegr, Michael Gove, ddweud y bydd yn cyflwyno hyn yn Lloegr.

Bydd cwsmeriaid ar draws y ffin, fydd yn defnyddio poteli plastig a gwydr a chaniau alwminiwm a dur, yn cael eu blaendal yn ôl os ydyn nhw'n eu dychwelyd.

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd Cymru, Hannah Blythyn fod ymgynghorwyr yn ystyried y cynllun yng Nghymru.

Dyw'r manylion yn Lloegr ddim wedi eu penderfynu, gan gynnwys faint fydd y blaendal ond mewn gwledydd Ewropeaidd eraill mae'n amrywio rhwng 22c yn yr Almaen i 8c yn Sweden.

Comisiynu astudiaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lefelau ailgylchu Cymru gyda'r gorau yn y byd.

"Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant yma rydym yn edrych ar y ffyrdd gorau o leihau gwastraff a sbwriel ac i ailgylchu mwy.

"Rydyn ni wedi dechrau gweithio gyda Deffra ynglŷn â sut fyddai cynllun ar draws Prydain yn gweithio."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah Blythyn AC fod ymgynghorwyr yn ystyried y cynllun yng Nghymru

Wythnos diwethaf dywedodd Ms Blythyn wrth ACau ei bod wedi comisiynu ymgynghorwyr i archwilio cynlluniau gwahanol sy'n cynnwys y cynllun blaendal.

"Rwyf wedi cael crynodeb drafft o'r adroddiad hwnnw ac rwy'n gobeithio y bydd modd cyhoeddi hwnnw cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib," meddai.

Mae'r Alban eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cyflwyno cynllun blaendal am ddychwelyd eitemau.