Oedi 'annerbyniol' ynglŷn â chyhoeddi adolygiad S4C
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo llywodraeth y DU o oedi "annerbyniol" ynglŷn â chyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol oedd yn edrych ar sianel S4C.
Fe gyflwynodd Euryn Ogwen Williams y ddogfen ar ddechrau mis Rhagfyr.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith fe all oedi pellach effeithio ar gyllideb S4C ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd adran ddiwylliant llywodraeth y DU fod yr ysgrifennydd diwylliant yn "ystyried argymhellion" yr adolygiad ac y bydd yn "cyhoeddi'r adolygiad ac ymateb y llywodraeth mewn amser".
Mae S4C yn dweud mai "mater i'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yw amseriad" cyhoeddi'r adolygiad.
Dim dyddiad
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r ysgrifennydd gwladol dros ddiwylliant ym mis Rhagfyr wedi tri mis o waith.
Roedd gan Euryn Ogwen Williams, cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, y dasg o ystyried dulliau ariannu, cylch gwaith a threfn llywodraethu'r sianel.
Dyw'r llywodraeth erioed wedi datgan pryd fydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi.
Ers derbyn yr adroddiad mae ysgrifennydd gwladol newydd wedi'i benodi, gyda Matt Hancock yn cymryd lle Karen Bradley yn yr adran yn dilyn ad-drefniant y cabinet ym mis Ionawr.
Ond yn ôl cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell, mae angen brysio.
"Mae'n annerbyniol bod rhywun yn gorfod disgwyl cyn hired, yn enwedig o safbwynt S4C eu hunain, sydd efo ansicrwydd dros eu cyllideb nhw o fis Ebrill ymlaen.
"Mae'n hollol annerbyniol ac yn arwydd o'r diffyg blaenoriaeth sydd gan y llywodraeth yn San Steffan i S4C a materion yn ymwneud a darlledu yma yng Nghymru, ac yn cefnogi y ddadl sydd gennom ni - a chefnogaeth ar lawr gwlad - i ddatganoli grym dros ddarlledu i ni yma yng Nghymru."
Mae'r rhan helaeth o gyllideb S4C yn dod o ffi'r drwydded, ac mae'r BBC wedi cytuno talu £74.5m i'r sianel hyd at 2022.
Ar hyn o bryd mae llywodraeth y DU yn talu £6.8m i gyllideb S4C.
Fe ddywedodd prif weithredwr S4C, Owen Evans nad oedd yn disgwyl i'r adolygiad arwain at gynnydd yng nghyllideb y sianel a hynny tra roedd Euryn Ogwen Williams wrth ei waith.
Gwylio S4C eto
Mae Guto Harri, sydd yn aelod o awdurdod S4C, yn rhybuddio rhag disgwyl gormod gan yr adroddiad.
"O ran ansawdd y cynnyrch, o ran ansawdd y cyfathrebu, dwi'n credu bod S4C mewn lle arbennig o dda, ag i ryw raddau, i fi, mae'r arolwg yma bron a bod yn amherthnasol.
"Rydyn ni wedi symud ymlaen fel sianel. Be' ni angen yw i afiaith, a chreadigrwydd, a brwdfrydedd y Cymry i ddangos - ac i'r gynulleidfa, i'r Gymry Gymraeg sydd yn abl i wylio - i wylio unwaith eto. Achos mae'n werth gwylio.
"Dyna ydy'r her yn y pen draw - ddim aros i un dyn i gyhoeddi darn o bapur rhwng darnau mawr o gardbord, yn cael ei gyflwyno gan ysgrifennydd gwladol newydd.
"Mae hyn yn ein dwylo ni, nid yn nwylo unrhyw adolygydd na unrhyw lywodraeth yn y pen draw.
"Ein her ni yw i fanteisio ar y sianel wych yma sydd ganddo ni."
Dywedodd adran ddiwylliant Llywodraeth y DU fod "darlledu yn gwneud cyfraniad enfawr i dirwedd economaidd a diwylliannol Prydain".
Cyhoeddi 'mewn amser'
Mae'r llefarydd hefyd yn dweud y dylai darlledu barhau i fod yn rhan o gyfrifoldeb llywodraeth San Steffan.
Ychwanegodd: "Mae'r ysgrifennydd diwylliant nawr yn ystyried argymhellion adolygiad annibynnol S4C ac fe fydd yn cyhoeddi'r adolygiad ac ymateb y llywodraeth mewn amser."
Yn ôl S4C mater i'r adran honno yw "amseriad cyhoeddi adolygiad S4C.
"Mae'r sianel yn edrych ymlaen at ystyried casgliadau'r adolygiad maes o law," meddai'r llefarydd.
"Y ddealltwriaeth o'r cychwyn oedd y byddai cyllid S4C yn cael ei rewi nes y byddai'r adolygiad wedi cael ei gyhoeddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017