Teulu 'wedi eu chwalu' gan farwolaeth John Williams

  • Cyhoeddwyd
John Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu dyn gafodd ei ganfod yn farw yn Abertawe wedi dweud bod eu bywydau "wedi eu chwalu".

Cafodd John Williams, oedd yn 67 oed ac yn cael ei adnabod fel Jack, ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 31 Mawrth.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu bod eu bywydau "wedi eu chwalu" ac y byddai "colled am Jack gan bawb oedd yn ei garu ac yn ei 'nabod".

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r farwolaeth, ac yn awyddus i siarad gydag unrhyw un aeth i gartref Mr Williams ar Heol Pentre-Chwyth rhwng nos Iau 29 Mawrth a dydd Sadwrn 31 Mawrth.

Ychwanegodd y datganiad: "Rydyn ni'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu fel y gallwn ni adnabod y rhai sy'n gyfrifol am farwolaeth Jack."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555111.