Dylunio a chreu coron yr Eisteddfod wedi cymryd 400 awr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aeth Cymru Fyw i holi Laura Thomas i gael gwybod mwy a chael cip olwg ar y goron derfynol

Mae dylunio a chreu y goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni wedi cymryd cannoedd o oriau.

Ond yn ôl y fenyw gafodd ei dewis i wneud y gwaith mae hi bellach wedi'i chwblhau.

"Dwi wedi bod yn gweithio ar y goron ers Tachwedd ac mae wedi cymryd fi biti chwe mis i'w gorffen hi a'i chreu hi. 'Dwi wedi ei gorffen hi wythnos hon," meddai Laura Thomas wrth Cymru Fyw.

"Mae biti 600 darnau o bren wedi'u gosod yn y goron ac mae wedi cymryd fi biti 400 o oriau i'w gorffen."

Gemydd yw Ms Thomas, sy'n 34 oed ac o Gastell-nedd, ac mae wedi defnyddio deunyddiau cynaliadwy - arian wedi'i ailgylchu a nifer o arwynebau pren - trwy ddefnyddio techneg parquet ar y goron derfynol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Thomas wedi dewis lliwiau sy'n cyferbynnu â'i gilydd ar gyfer y goron

Mae'n dweud bod y deunyddiau yn adleisio datblygiadau technoleg cynaliadwy sy'n digwydd ar hyn o bryd o amgylch y brifddinas, a'i bod wedi arbrofi gyda phatrymau ac onglau i adlewyrchu'r camau ymlaen sydd wedi bod mewn gwyddoniaeth fodern.

Prifysgol Caerdydd sydd wedi noddi creu a dylunio'r goron eleni.

Dywedodd Ms Thomas ei bod yn ddiolchgar iawn ei bod wedi ei dewis i greu'r goron gan fod hyn wedi bod yn ddeheuad iddi ers blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 600 darnau o bren wedi'u gosod yn y goron

"Dw i wedi tyfu lan gyda'r Eisteddfod a dwi'n cofio bod yn rhan o ddawns y blodau. Dw i wastad wedi moyn creu a dylunio'r goron," meddai.

"Mae'r goron yn gyfle i fi ddangos fy ngwaith i lawer o bobl, i bobl weld beth fi amdano. Ac i bobl gael gweld pa fath o ddeunyddiau dwi'n gweithio gyda."

Ar ddydd Llun yr Eisteddfod fel arfer mae'r prifardd buddugol yn cael ei goroni neu ei choroni.

Os bydd teilyngdod ym mis Awst dywedodd y bydd gweld rhywun yn gwisgo ei choron yn brofiad wnaiff hi ddim anghofio.

"Pan fyddwn ni yn gweld y goron yn cael ei gwobrwyo yng Nghaerdydd dw i'n credu byddaf i yn hapus iawn a byddaf i ddim yn gallu credu mai fi 'naeth greu e!"