Dau glwb Uwch Gynghrair yn methu cais trwydded ddomestig

  • Cyhoeddwyd
CBCFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae dau o glybiau allai gyrraedd Ewrop yn Uwch Gynghrair Cymru eleni wedi methu sicrhau trwydded ddomestig ar gyfer y tymor nesaf ar y cynnig cyntaf.

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi pa glybiau sydd wedi llwyddo gyda cheisiadau ar gyfer y drwydded y mae'n rhaid ei chael er mwyn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae trwyddedau CPD Dinas Bangor - sydd yn un o'r ychydig glybiau sydd wedi cystadlu ymhob tymor ers sefydlu Uwch Gynghrair Cymru yn 1992 - a Chei Connah wedi'u gwrthod.

Mae gan y clybiau sydd wedi cael eu gwrthod 10 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae'r drwydded yn cael ei phenderfynu ar sail:

  • Hyfforddi Ieuenctid;

  • Isadeiledd;

  • Sefyllfa gyfreithiol;

  • Sefyllfa weinyddol a phersonél;

  • Côd ymarfer.

Mae naw o'r clybiau presennol yn Uwch Gynghrair Cymru wedi bod yn llwyddiannus gyda Phrestatyn, sydd eisoes wedi colli eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf, wedi tynnu eu cais am drwydded yn ôl.

Yn ogystal â chlybiau yn Uwch Gynghrair Cymru mae clybiau sy'n cystadlu yn ail haen bêl-droed Cymru hefyd wedi derbyn cadarnhad o ganlyniad eu ceisiadau.

Mae clwb Caernarfon, a fethodd gyda'u cais ddwy flynedd yn ôl, wedi llwyddo y tro hwn, gyda'r Caneris yn hedfan yn uchel yn nhabl yr Huws Gray Alliance ac yn debygol o ennill dyrchafiad.

Yn ogystal â Chaernarfon mae Y Rhyl, Airbus UK Brychdyn a'r Fflint wedi llwyddo yn y gogledd, a Hwlffordd sy'n drydydd yn Adran Gyntaf Cynghrair Cymru wedi llwyddo gyda'u cais yn y de.

Mae Clwb Pêl-droed Tref Llanelli, sydd ar frig yr adran, wedi methu ar y cynnig cyntaf.

Daeth cadarnhad fod CPD Porthmadog a Phen-y-bont wedi tynnu eu cais yn ôl.