Codi terfyn cynilion pobl sydd mewn cartrefi preswyl
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl sy'n derbyn gofal mewn cartrefi preswyl yng Nghymru yn cael cadw £10,000 ychwanegol o'u cynilion cyn gorfod talu cost y gofal yn llawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi codi'r terfyn cyfalaf i £40,000, ar ôl iddo gael ei godi o £24,000 i £30,000 yn 2017.
Bwriad Llafur yw codi'r terfyn i £50,000 erbyn etholiad y Cynulliad yn 2021.
Yn ôl gweinidogion mae hyd at 4,000 o bobl yn talu eu costau llawn am ofal, ac fe wnaeth rhyw 450 elwa o'r cynnydd y llynedd.
'Gweithio'n galed i'w ennill'
Mae'r terfyn cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i weld a oes angen i berson dalu'r gost lawn am eu gofal, neu os ydyn nhw'n gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol gan eu hawdurdod lleol.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies: "O heddiw ymlaen, bydd y terfyn cyfalaf yn codi o £30,000 i £40,000, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael cadw £10,000 ychwanegol o'r cynilion y maen nhw wedi gweithio'n galed i'w ennill a chyfalaf arall i'w defnyddio yn ôl eu dymuniad.
"Erbyn diwedd y Cynulliad presennol, bydd y terfyn yn codi i £50,000."
Y terfyn cyfalaf yn Lloegr yw £23,250.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2017