Llofruddiaeth Abertawe: Cyhuddo trydydd person

  • Cyhoeddwyd
John WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe welwyd John 'Jack' Williams ar gamera cylch cyfyng yn y cyfnod cyn ei farwolaeth

Mae trydydd person wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth pensiynwr yn ei gartref yn Abertawe.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff John 'Jack' Williams, 67, yn Ffordd Pentre-chwyth ar ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Mae Faisal Kadir, 57 oed o Abertawe, wedi'i gyhuddo o roi lloches i droseddwr mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a cafodd ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn llys ynadon y ddinas ddydd Llun.

Roedd dau arall - Gemma Owens, 31, a Simon Cairns, 45 - eisoes wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio Mr Williams.

Mae'r heddlu hefyd wedi cael 36 awr ychwanegol i gwestiynu dyn 41 oed gafodd ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o lofruddio Mr Williams.