Y gerddorfa Gymreig sy'n dathlu 90 mlynedd o berfformio
- Cyhoeddwyd
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed eleni.
Perfformiodd Cerddorfa Genedlaethol Cymru (ei enw bryd hynny) am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 12 Ebrill 1928, a cafodd y perfformiad ei ddarlledu'n fyw ar orsaf radio 5WA.
Yr wythnos yma, mae amserlen lawn o ddathliadau, ac mae digon o gyfleoedd i chi gyd-ddathlu â'r gerddorfa ar yr awyr, ar-lein ac mewn cyngerdd byw nos Iau 12 Ebrill yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd - sydd yn cael ei we-lifo'n fyw ac yn cael ei ddarlledu'n fyw ar BBC Radio Cymru.

Y gerddorfa yn 1928 gyda'r prif arweinydd, Warwick Braithwaite, wrth y llyw
Ym mherfformiad cyntaf y gerddorfa mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 1930, cafodd Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech ei berfformio.
O ganlyniad, mae detholiad o waith y cyfansoddwr Gareth Glyn, Gwlad y Gân - sy'n cynnwys y darn yma - ymhlith y darnau arwyddocaol fydd yn cael ei berfformio yn y cyngerdd yr wythnos yma.
Mae gan Gareth Glyn gysylltiad agos â'r gerddorfa:
"Rydw i wedi bod yn dra ffodus a diolchgar fel cyfansoddwr dros y deugain mlynedd diwetha' gan fod y gerddorfa wedi comisiynu a pherfformio nifer o'm gweithiau.
"Ond cyn hynny, nôl yn yr 1970au cynnar, roeddwn i ar staff y BBC fel aelod o'r Adran Gyflwyno, a rhan bwysig o'm gwaith oedd cyflwyno'r gerddorfa i gynulleidfaoedd mewn neuaddau cyngerdd ac ar y radio.
"Dois i'n gyfarwydd iawn â'r aelodau, ac yn mwynhau ymddiddan â nhw. Roedden nhw, ac maen nhw'n dal i fod, yn weithwyr caled a chydwybodol o'r safon dechnegol a cherddorol ucha', a hynny o hyd mewn ysbryd siriol a chyfeillgar.

Gareth Glyn
"Dwi'n cofio un cyngerdd gafodd ei drefnu ar gyfer rhyw ddathliad pwysig, a roedd rhesi blaen y gynulleidfa yn llawn o wahoddedigion blaenllaw.
"Digwyddodd rhyw amryfusedd i'r arweinydd, ac mi roddodd yr arwydd anghywir i'r gerddorfa mewn man allweddol; roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i'r offerynnwyr 'gyfansoddi' wrth fynd yn eu blaen, gan wneud hynny'n hynod o ddeheuig.
"Roeddwn i'n ofni'n wirioneddol mai chwalu'n deilchion fyddai'r gerddoriaeth ymhen ychydig, a minnau'n gorfod gwneud rhyw ymddiheuriad dwys.
"Ond daeth y cyrn i mewn yn gryf gyda thema yr oedd pob aelod o'r gerddorfa yn ei hadnabod, ac mewn chwinciad mi ymunon nhw i gyd yn y lle cywir, gan gloi'r darn yn anrhydeddus, i fonllefau o gymeradwyaeth. Y gerddorfa a achubodd y dydd y noson honno!"
BBC NOW yn perfformio yn y 'Relaxed Prom' cyntaf - anodd fyddai dychmygu aelodau gwreiddiol y gerddorfa yn 1928 yn gwisgo siwmperi lliwgar ac yn dawnsio wrth chwarae darnau clasurol a modern!
Diddanu cynulleidfaoedd newydd
Mae mwy i waith y gerddorfa na pherfformio mewn cyngherddau clasurol yn unig. Elfen arall yw'r gwaith mae'r gerddorfa yn ei wneud yn y gymuned a gyda phrosiectau addysgol.
Mae hi'n mynd â cherddoriaeth tu hwnt i'r neuadd gyngerdd i ysgolion, gweithleoedd a chymunedau, ac yn rhoi cyfle i bobl o wahanol gefndiroedd i feithrin sgiliau cerddorol.

Yn 2015, aeth y gerddorfa ar daith i Dde America i gynnal cyngherddau a gweithdai mewn ysgolion, gan dreulio cyfnod ym Mhatagonia i nodi 150 ers i Gymry allfudo i'r Wladfa
Ar adegau, mae angen ceisio cyflwyno'r gerddoriaeth mewn dulliau gwahanol. Roedd y Relaxed Prom cyntaf a gynhaliwyd yn 2017 yn y Royal Albert Hall yn llwyddiant ysgubol.
Dyma gyngerdd rhyngweithiol, llawn hwyl a lliw, oedd yn addas ar gyfer plant ac oedolion ag awtistiaeth, nam ar y synhwyrau, nam cyfathrebu ac anableddau dysgu.
Atgofion Huw Tregelles Williams, cyfarwyddwr cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Symud gyda'r amser
Mae'r gerddorfa wedi cael nifer o gartrefi dros y blynyddoedd wrth iddi ehangu - o Eglwys Ebenezer ar Stryd Siarl yng nghanol Caerdydd, i'r Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf - ond bellach yn hynod gartrefol yn Neuadd Hoddinott, yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd.
Ac wrth gwrs, mae repertoire y gerddorfa wedi ehangu a moderneiddio dros y blynyddoedd hefyd. Y gerddorfa sydd wedi chwarae cerddoriaeth thema Doctor Who ers i'r gyfres ddychwelyd i'n sgriniau yn 2005.
Mae hi wedi cyfeilio i rai o artistiaid mwyaf y sin roc Gymraeg, ac hyd yn oed wedi chwarae fersiwn o un o ganeuon Super Furry Animals! Does dim byd fel amrywiaeth!
Perfformiad arbennig gan Alys Williams a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Pen-blwydd hapus, ac ymlaen i'r 100!
