Gwobr aur gŵyl yn America i raglen dementia Beti George
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen ddogfen BBC Cymru am yr heriau a'r rhwystredigaethau sy'n wynebu gofalwyr pobl â dementia wedi ennill gwobr aur yng Ngwobrau Teledu a Ffilm Rhyngwladol New York Festivals.
Roedd Beti and David: Lost for Words yn canolbwyntio ar y gyflwynwraig Beti George a'i diweddar gymar, y newyddiadurwr a'r darlledwr David Parry-Jones, wrth iddi ofalu amdano tra roedd yn dioddef o dementia.
Fe gafodd y wobr ei chyflwyno i Beti George mewn seremoni yn Las Vegas.
Dywedodd bod y profiad yn un "felys-chwerw", yn enwedig gan fod y seremoni'n cael ei chynnal union flwyddyn wedi marwolaeth Mr Parry-Jones.
Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu gan gwmni Silin ac fe ddaeth i'r brig yn y categori ar gyfer rhaglenni dogfen am iechyd a gwybodaeth feddygol.
Dywedodd Beti George: "Roedd y gystadleuaeth, mae'n debyg, am y categori arbennig yma yn uchel iawn. 'Dwi ddim wir yn credu ein bod ni wedi ennill."
"O'n i'n cael fy ngyrru i wneud e - 'dwi ddim yn gallu esbonio'r peth hyd heddi," meddai, wrth ddisgrifio'r profiad o ganiatâu camerau i'w cartref er mwyn rhoi darlun o fywyd bob dydd yn gofalu am berson â dementia.
"O'n i isie bod mor onest ag y gallen i fod. Wi'n gwybod bod rhai pobol falle yn meddwl bo' fi 'di mynd yn rhy bell ond dyna'r gwirionedd pan mae rhywun yn gofalu ar ôl rhywun â dementia.
"Dyw hi ddim yn hawdd, ond doedd o ddim yn faich arna'i chwaith achos o'dd David .... o'dd e mor hawdd.!
O ganlyniad i'w phrofiad personol, roedd yn galw yn y rhaglen am "chwyldro" mewn gofal dementia a'r gefnogaeth sydd ar gynnig i ofalwyr.
"Doedd y peth ddim wedi cael ei drafod cyn ein bod yn gwneud y rhaglen yma, yn enwedig o safbwynt y gofalwr.
"Mae'r ymateb wedi bod yn aruthrol ac mae pobol... yn edrych arna'i nawr fel rhywun â llais dros ofalwyr pobol â dementia yng Nghymru."
Fe gafodd tri chynhyrchiad arall o Gymru gydnabyddiaeth yn y seremoni.
Yn y categori Portreadau Cymunedol fe gafodd cwmni Darlun wobr arian am Hen Blant Bach - rhaglen am arbrawf cymdeithasol a welodd plant meithrin yn rhannu eu gofal dydd gyda phensiynwyr.
Roedd yn fedal efydd yn y categori Materion Cymdeithasol i'r rhaglen ddogfen Colli Dad, Siarad am Hynna - cynhyrchiad BBC Cymru yn dilyn ymdrechion Stephen Hughes i geisio dod i dermau gyda hunanladdiad ei dad.
Ac fe gafodd drama drosedd ddwyieithog gyntaf S4C, Bang - cynhyrchiad Joio ac Artists Studio - wobr efydd yn y categori Drama Drosedd.
Wrth longyfarch y cynhyrchwyr, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees: "Gyda chystadleuaeth o dros 40 o wledydd, mae'n profi bod cynyrchiadau S4C ymysg y gorau yn y byd ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017