Ynni carbon isel: Potensial i'r gogledd 'arwain y ffordd'

  • Cyhoeddwyd
TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweinidog Swyddfa Cymru wedi pwysleisio bod gogledd Cymru â'r potensial i fod "ar flaen y gad" wrth i'r DU symud tuag at economi carbon isel.

Ar ei ymweliad â gorsaf bŵer Trawsfynydd ddydd Iau fe bwysleisiodd Stuart Andrew werth Adweithyddion Modiwl Bach i greu twf a swyddi safon uchel yn yr ardal.

Mae dau adroddiad wedi awgrymu y gallai'r safle yng Ngwynedd fod yn un delfrydol ar gyfer adweithydd o'r fath.

Bryd hynny fe wnaeth arweinwyr undebau yn yr hen orsaf niwclear groesawu'r awgrym y gallai adweithydd newydd gael ei leoli ar y safle.

Mae cadeirydd Parth Menter Eryri wedi honni y gallai'r adweithydd newydd greu hyd at 600 o swyddi yn yr ardal.

Ond yn y gorffennol mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi dweud nad yw'r dechnoleg wedi ei phrofi a bod safleoedd fel Trawsfynydd yn cael eu cynnig am fod y boblogaeth yn isel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Andrew yn dweud y bydd y sector ynni â rhan fawr yn nyfodol y gogledd

Fe wnaeth Mr Andrew ei sylwadau wrth annerch Cynhadledd Ynni Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy yn Nhrawsfynydd ddydd Iau.

Mr Andrew yw AS etholaeth Pudsey yn sir Gorllewin Efrog, ond cafodd ei eni a'i fagu ar Ynys Môn.

'Arwain y ffordd'

"Mae tirwedd ac adnoddau naturiol Cymru wedi golygu ein bod ar flaen y gad o ran cyflenwad trydan yn y DU," meddai cyn ei ymweliad.

"Nawr mae gennym y potensial i adeiladu ar yr arbenigedd yma, gan gymryd mantais o'n hadnoddau i sicrhau bod Cymru'n arwain y ffordd yn symud tuag at economi carbon isel.

"Mae gan yr arbenigedd niwclear yng ngogledd Cymru'r potensial i chwyldroi'r economi, gan ddatblygu cyfleoedd newydd i greu swyddi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r orsaf yn Nhrawsfynydd ddim wedi cynhyrchu ynni ers 1991

Fel rhan o'i ymweliad deuddydd â gogledd Cymru bu Mr Andrew yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau'r ardal ddydd Mercher i drafod cynigion am gytundeb twf ar gyfer y gogledd.

Dywedodd y byddai'r sector ynni'n debygol o chwarae rhan fawr mewn unrhyw gytundeb o'r fath.

"Bydd cytundeb twf yng ngogledd Cymru yn trawsffurfio'r ffordd mae'r rhanbarth yn cael ei reoli, gan ddod â phwerau i lefel leol a chysylltu trefi a dinasoedd yn well, o fewn Cymru a dros y ffin," meddai.

"Mae tirwedd gogledd Cymru yn berffaith i chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni carbon isel y DU, ac rwy'n annog arweinwyr lleol i ystyried ei botensial pan yn cyflwyno ceisiadau ar gyfer y cytundeb twf."