Cyfarfod cyhoeddus yn galw am welliannau diogelwch A487

  • Cyhoeddwyd
Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams yn y gwrthdrawiad ger Gellilydan

Mae angen gwelliannau i ran o'r A487 ble fu farw dynes ifanc a babi, yn ôl cynghorwyr lleol.

Roedd tua 50 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngellilydan nos Iau i drafod y mater.

Mae'r cynghorydd Elfed Roberts wedi galw am derfyn cyflymder is ar y ffordd tu allan i'r pentref, ynghyd â mesurau eraill.

Ym mis Ionawr, bu farw Anna Williams, 22, a'i nith Mili Wynn Ginniver, oedd yn chwe mis oed, wedi gwrthdrawiad rhwng car a lori.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 50 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod i drafod diolelwch ar hyd y ffordd

Cafodd Sioned Williams, 26 - mam Mili a chwaer Anna - ei hanafu yn y digwyddiad. Cafwyd cyhoeddiad ym mis Chwefror ei bod yn gwella, ac roedd hi'n bresennol yn y cyfarfod nos Iau.

Yn ôl pobl leol, mae damweiniau cyson ar y rhan yma o'r ffordd - gyda Mr Roberts yn dweud y bu dwy ddamwain arall dros gyfnod y Pasg.

Mae'r rhan yma o'r ffordd yn droellog mewn rhannau, ac mae pobl leol yn dweud fod cerbydau yn teithio ar gyflymder.

Ynghyd â therfynau cyflymder newydd, fe wnaeth y cynghorydd alw am adnewyddu'r wyneb sydd i fod i atal sgidio ar y lôn a gosod arwyddion eglur am y peryglon.

Awgrymodd eraill - gan gynnwys Ms Williams - bod problem gyda gogwydd a chambr y ffordd ar y troadau ger Gellilydan.

Roedd yr AS lleol, Liz Saville-Roberts, a chynrychiolaeth o Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, ond mynegodd rhai siom nad oedd cynrychiolaeth o'r Asiantaeth Cefnffyrdd nac o Lywodraeth Cymru.

Mae trefnwyr y cyfarfod yn dweud bod y gweinidog sy'n delio â thrafnidiaeth, Ken Skates, yn barod i gwrdd yn y dyfodol i drafod y pryderon.