Cynyddu grant ar gyfer disgyblion ifanc difreintiedig

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kirsty Williams ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2016

Bydd grant sydd wedi'i anelu at blant difreintiedig yn cynyddu yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

Fe fydd y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn codi o £600 i £700 ar gyfer pob disgybl cymwys.

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y bydd y buddsoddiad ychwanegol o fudd i 15,000 o ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen.

Daw'r cyhoeddiad ddydd Sadwrn wrth i aelodau'r blaid ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd y gwanwyn.

'Lleihau'r bwlch cyrhaeddiad'

Cafodd y Grant Datblygu Disgyblion ei gyflwyno yn 2012 fel rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y tymor Cynulliad diwethaf.

Mae'n darparu rhagor o arian i ysgolion yn ddibynnol ar nifer y disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a nifer y plant sydd mewn gofal.

Mae'r grant gwerth £1,150 ar gyfer pob disgybl rhwng Blwyddyn 1 ac 11, ac mae'r ffigwr ar gyfer plant sy'n iau na hyn wedi codi i £700.

Dywedodd Ms Williams, unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth galon ein nod cenedlaethol i godi safonau."

Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yw arweinydd y blaid yng Nghymru ers mis Tachwedd

Wrth annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, ei bod am sicrhau bod "tegwch a rhyddid" yn flaenoriaeth i wleidyddiaeth Cymru.

Dywedodd bod "dim gwadu" bod y blaid wedi cael cyfnod anodd, a bod brwydr galed o'u blaenau.

Dim ond un AC a 62 o gynghorwyr sydd gan y blaid yng Nghymru bellach, a does ganddyn nhw ddim AS yma.

'Radical a blaengar'

Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl yn gwybod am safbwynt y blaid ar Brexit.

"Mae gan bobl yr hawl i benderfynu fod y math o Brexit yr ydym yn carlamu tuag ato o bosib y penderfyniad anghywir ar gyfer ein gwlad."

Ychwanegodd nad oedd Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE ar unrhyw gost.

"Mae'n rhaid siarad â phobl ynglŷn â Brexit a pheidio bod ofn gwneud penderfyniadau anodd."

Dywedodd wrth BBC Cymru bod y blaid angen canolbwyntio ar "ddau neu dri pholisi allweddol" i ddenu pleidleiswyr Cymru yn ôl at y blaid.

"Mae'n rhaid i ni fod yn radical a blaengar, cymryd ambell i risg a bod yn feiddgar," meddai.