Ymddiheuriad i gyn-AS Ceidwadol am drydariad 'difenwol'

  • Cyhoeddwyd
Byron Davies
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Byron Davies ei sedd yn etholiad cyffredinol 2017, ar ôl ei hennill yn annisgwyl yn 2015

Mae cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi derbyn ymddiheuriad a "iawndal sylweddol" wedi i etholwr ei gyhuddo ar gam o fod dan amheuaeth o dwyll etholiadol.

Cafodd Byron Davies ei drechu yn sedd Gŵyr yn etholiad cyffredinol 2017 gan Tonia Antoniazzi o'r Blaid Lafur.

Yn ystod yr ymgyrch fe wnaeth Dan Evans, sydd yn gwneud ffilmiau ac yn rhedeg caffi yn y Mwmbwls ger Abertawe, honni fod ymchwiliad i Mr Davies.

Dywedodd Byron Davies fod yr honiad "wedi dylanwadu ar fwriadau pleidleisio".

'Edifar yn fawr'

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter dywedodd Mr Evans, oedd yn byw yn yr etholaeth drws nesaf i un Mr Davies: "Fe wnes i sylwadau difenwol am Byron Davies yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd.

"Roeddwn i eisiau iddo golli, ac fe wnes i drydar yn dweud ei fod yn cael ei ymchwilio am dwyll etholiadol.

"Doedd hyn ddim yn wir ac rwy'n edifar yn fawr am beth wnes i. Hoffwn annog pobl i beidio ag ailadrodd fy ymddygiad annerbyniol. Ail-drydarwch os gwelwch yn dda."

Yn ogystal â'r ymddiheuriad, mae'n debyg bod Mr Evans wedi gwneud "cyfraniad sylweddol" i elusen o ddewis Mr Davies.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru fod ganddo "restr" o bobl eraill oedd wedi gwneud honiadau tebyg.

"Mae hyn yn wers i'r rheiny sydd eisiau ymosod ac osgoi'r broses ddemocrataidd," meddai'r cyn-AS.

"Mae newyddion ffug yn fusnes costus y mae'n rhaid iddyn nhw wynebu yn y diwedd."

Mewn ymateb i gais gan BBC Cymru, dywedodd Dan Evans nad oedd yn cael gwneud sylw.