Galw am wella darpariaeth ymarfer corff i bobl â MS
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Gaerdydd wedi galw am wella darpariaeth ymarfer corff i bobl sy'n dioddef o gyflyrau niwrolegol.
Mae Radha Nair-Roberts, sy'n dioddef o'r cyflwr MS ers 18 mlynedd, yn dweud fod parhau i wneud ymarfer corff yn "hanfodol" i bobl sy'n byw gyda chyflyrau o'r fath.
Mae Ms Nair-Roberts yn wreiddiol o Singapore, ond fe briododd Tegid Roberts o Wrecsam, cyn dysgu siarad Cymraeg yn rhugl. Bellach mae ganddyn nhw ddau o blant.
Cyn rhoi'r gorau i'w gwaith, roedd Ms Nair-Roberts hefyd yn gweithio yn y maes ymchwil niwrolegol, ac roedd ei hymchwil yn profi bod cadw'n heini yn bwysig iawn i bobl â chyflyrau tebyg i MS.
Eglurodd Ms Nair-Roberts a'i gŵr wrth BBC Cymru fod nifer o rwystrau yn atal pobl anabl rhag gwneud ymarfer corff ar hyn o bryd.
Dywedodd y ddau fod y ffactorau yn cynnwys "diffyg hyfforddiant ymysg staff" canolfannau hamdden, i "offer arbenigol ddim ar gael".
"Mae'n teimlo'n dda iawn, mae'r peiriannau yn helpu i mi symud, ac mae symud y breichiau a'r coesau yn hollbwysig i bobl anabl fel fi.
"Fel person sydd wedi astudio gwyddoniaeth niwrolegol, dwi'n deall yn hollol fod cadw'n heini ac ymarfer corff yn hollbwysig i bobl yn fy sefyllfa i, oherwydd - If you don't use it, you lose it, felly dylai pobl anabl gael cyfleoedd gwell i gadw'n heini, oherwydd mae'n helpu eu salwch."
Ymgyrch newydd
Wedi iddi gael y diagnosis, doedd Ms Nair-Roberts ddim yn credu y byddai'r salwch yn ei newid yn llwyr, ond ar ôl i'r MS waethygu, fe benderfynodd ymgyrchu a chreu menter o'r enw Exercise for All i'w gwneud hi'n haws i bobl anabl gadw'n heini.
"Ein gobath efo Exercise for All yw y bydd yn rhoi mwy o gyfle i bobl anabl gadw'n heini yn y gymuned."
Mae'r ymgyrch wedi sicrhau fod ystafell arbennig wedi ei haddasu yng Nghanolfan Hamdden Llanisien, sy'n darparu offer ymarfer corff i bobl anabl.
Ychwanegodd Ms Nair-Roberts: "Mae dechrau ymarfer corff eto wedi gwneud gwahaniaeth anferth i mi, dwi dal ddim yn gweithio yn dda iawn, ond dwi'n llawer gwell, a dwi'n gallu symud fy mysedd rŵan a dwi'n gallu defnyddio fy mraich ychydig bach.
"Mae 'na dipyn mwy o waith angen ei wneud... ond mae'n rhoi gobaith i mi, achos 'da ni gyd eisiau bod yn bobl annibynnol."
Mae Ms Nair-Roberts a'i gŵr hefyd yn dweud fod 'na fanteision ariannol i'r GIG, petai gwell darpariaeth ymarfer corff i bobl sydd â chyflyrau fel MS, fe fyddai iechyd tymor hir pobl yn gwella, a llai yn dibynnu ar feddyginiaethau i reoli poen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017