Ateb y Galw: Y cyflwynydd radio Tommo
- Cyhoeddwyd
Andrew 'Tommo' Thomas, cyflwynydd radio ar Nation Radio, a chyn-gyflwynydd BBC Radio Cymru, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Stephen Jones yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio cael bonclust am regi wrth fy mam. Do'n i ddim yn gwybod beth oedd ystyr y gair, o'n i wedi clywed rhywun yn ei weud. Jiw jiw - ges i glust goch!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
O'n i wedi cwympo mewn cariad gyda Samantha Fox. Dwi'n cofio prynu pillow cases o bapurau fel News of the World, gyda llun Sam Fox arno fe!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Es i mas i siopa un bore, a sylweddoli mod i mas yn fy slipers, a gobeithio fod neb am sylwi! Dwi wedi ei wneud e cwpwl o weithie heb feddwl - falle ma' henaint yw e. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn trendy - bŵts hen ddyn y'n nhw!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan farwodd fy nhad i fis Medi.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n pigo gwinedd fy nhraed i a'u rhoi yn lwmpyn ar ochr y soffa...
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Gartre' - Aberteifi - dwi'n dwli byw 'na, a 'na le mae fy nheulu i gyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y gêm gyntaf pan weithiais i yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel cyhoeddwr, yn y gêm gyntaf ar ôl i dîm pêl-droed Cymru ddod adre' o Ffrainc. Gofynnais i i bawb godi i ganu'r anthem, a llefes i yn y microffôn! Mor emosiynol!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Hyderus, sbort, joio byw!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Y ffilm yw Pulp Fiction. Y llyfr yw Kestrel for a Knave. Dwi'n cofio ei ddarllen e yn yr ysgol uwchradd. O'dd pawb yn y dosbarth yn darllen un dudalen mas yn uchel, ac o'dd 'chydig o regi ar fy nhudalen i, a 'nes i ganolbwyntio lot ar y gair yna, gan mod i'n cael ei ddweud e!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Elvis Presley - i ddangos e sut i ganu...!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ddyn tawel. 'Sai'n becso am bethe ond wastad yn whare meddylia. Dwi'n dawel... oddi ar y meic!
O Archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cymryd benthyciad o filiwn o bunne a'i roi e i nheulu i!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Geiriau gan Ail Symudiad. Nhw yw fy hoff fand Cymraeg - y band gore yng Nghymru. Pan o'n i'n ifancach, o'n i'n tyfu lan yn gwrando arnyn nhw, a phan es i i'r ysgol uwchradd, o'n i'n gwneud drumsticks iddyn nhw mas o dowel heb i'r athro wybod! Maen nhw arno arian i mi - ges i 'rioed fy nhalu!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Rhaid i mi gael madarch garlleg gynta'. Yna fajitas - dwi'n dwli ar fwyd Mecsicanaidd. Yna hufen iâ fanila - dim byd 'dag e.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy ngwraig, fy ffrind gore i - i ddeall pam ei bod hi'n rhoi row i mi o hyd, ac i sylweddoli faint o idiot ydw i!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Betsan Powys