Gêm Mecsico v Cymru yn California dan fygythiad?
- Cyhoeddwyd
Mae'r gêm rhwng Cymru a Mecsico yn California fis nesaf dan fygythiad yn dilyn anghydfod rhwng chwaraewyr Mecsico a'u cymdeithas bêl-droed.
Mae Cymru i fod i herio Mecsico yn stadiwm y Rose Bowl ar 28 Mai - neu oriau mân y bore wedyn yng Nghymru.
Ond mae Cymdeithas Chwaraewyr Pêl-droed Proffesiynol Mecsico yn bygwth gwrthod gadael i'w chwaraewyr chwarae yn y gêm gyfeillgar.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, eu bod yn gobeithio am ddatrysiad "er mwyn Mecsico ac er mwyn Cymru".
Mae Mecsico i fod i herio'r Alban yn Mexico City ar 2 Mehefin hefyd.
Mae'r anghydfod yn ymwneud â hawliau cytundebol chwaraewyr sydd wedi dechrau eu gyrfa yn Mecsico, ac mae rhai wedi cwyno bod y trefniant yn mynd yn erbyn rheolau FIFA.
Ond mae cyfarfod rhwng Cymdeithas Chwaraewyr Pêl-droed Proffesiynol Mecsico, Cynghrair Mecsico a chymdeithas bêl-droed y wlad wedi methu â dod i gytundeb ar y mater.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Pêl-droed Proffesiynol Mecsico, Alvaro Ortiz, ar ôl y cyfarfod bod yr opsiynau'n cynnwys gwrthod chwarae yn y gynghrair a sicrhau nad yw'r chwaraewyr ar gael i herio Cymru a'r Alban.
Ond mae Mr Ford yn obeithiol y bydd y gêm gyfeillgar yn mynd yn ei blaen.
"Mae ganddyn nhw dipyn o amser i ganfod datrysiad i'r anghydfod," meddai.
"Rwy'n gobeithio eu bod yn dod o hyd i ddatrysiad er mwyn Mecsico ac er mwyn Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018