Jeremy Corbyn yn canmol 'ymroddiad diflino' Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn wedi diolch i Carwyn Jones am ei "ymroddiad diflino" wrth annerch cynhadledd Llafur Cymru ddydd Sul.
Daeth ei ymweliad â Chymru wrth i aelodau'r blaid barhau i ddod i delerau â chyhoeddiad y prif weinidog y bydd yn camu o'r neilltu yn yr hydref.
Dywedodd Mr Corbyn fod Mr Jones "wedi arwain Llafur Cymru i lwyddiant digynsail yn etholiadol, gan ffurfio dwy lywodraeth Lafur yn y Cynulliad".
Ychwanegodd y byddai Llafur yn "dysgu gwersi gan y llywodraeth yng Nghymru" wrth iddyn nhw baratoi i geisio ffurfio llywodraeth yn San Steffan.
'Llais cryf'
"Bydd e'n camu lawr fel prif weinidog yn yr hydref, a dylai'r gynhadledd hon dalu teyrnged i'w ymroddiad diflino i Gymru, i wlad decach, a'i angerdd i sefyll cornel pobl Cymru a bod yn llais cryf dros ddatganoli a democratiaeth," meddai Mr Corbyn yn ei araith.
Fe wnaeth Jeremy Corbyn dalu teyrnged i Rhodri Morgan a Carl Sargeant yn ystod ei araith, gan ddisgrifio Mr Morgan fel "y cawr ar gyfer datganoli yng Nghymru".
Dywedodd ei fod hefyd yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i wrthwynebu ymgais Llywodraeth y DU i "gipio pwerau" oddi arnyn nhw yn dilyn Brexit.
"[Byddwn ni'n] sicrhau fod yr holl bwerau sy'n dychwelyd o Frwsel yn cael eu trosglwyddo'n syth i'r sefydliadau datganoledig ar draws y DU, yn hytrach na chael eu casglu a'u canoli yng nghoridorau Whitehall.
"Mae'r ymateb Llafur yma i Brexit yn hanfodol os ydyn ni am warchod agenda blaengar Llywodraeth Cymru."
Bydd Mr Jones yn camu o'r neilltu yn yr hydref wedi bron i naw mlynedd fel prif weinidog.
Wrth gyfeirio at farwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant, dywedodd Mr Jones ei fod wedi bod drwy "gyfnod tywyll".
Mae Mr Jones wedi bod dan bwysau ers marwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant ym mis Tachwedd, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o gabinet y prif weinidog yn dilyn honiadau yn ei erbyn.
Ddydd Gwener fe wnaeth cyfreithwyr ei fab Jack - wnaeth ei olynu fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy - ddweud bod y teulu'n rhwystredig gyda'r oedi cyn dechrau ymchwiliad annibynnol i'r ffordd yr aeth Mr Jones ati i ad-drefnu ei gabinet.
Fe wnaethon nhw hefyd gyhuddo ymddygiad Mr Jones o achosi "gofid sylweddol" iddyn nhw.
Wrth ymateb i gyhoeddiad y prif weinidog, dywedodd Jack Sargeant: "Does dim byd yn newid. Mae'r ymchwiliadau yn parhau i fod yn berthnasol ac fe ddylen nhw barhau."
'Dirmyg'
Wrth gael ei holi ar BBC Radio Wales fore Sul dywedodd y Gweinidog Diwylliant Dafydd Elis-Thomas, sydd yn AC Annibynnol, fod rhai o fewn y blaid Lafur wedi bod yn tanseilio Carwyn Jones ers marwolaeth Mr Sargeant.
"Dwi ddim yn teimlo y gallai wneud sylw ar y sefyllfa bersonol ofnadwy y mae wedi bod drwyddo dros yr wythnosau a misoedd diwethaf," meddai'r Arglwydd Elis-Thomas wrth raglen Sunday Supplement.
"Does gen i ddim byd ond dirmyg i'r bobl hynny o fewn ei blaid sydd wedi bod yn corddi pethau yn ei erbyn."
Pan ofynnwyd iddo a oedd rhai unigolion oedd wedi bod yn ceisio tanseilio'r prif weinidog yn bersonol, ychwanegodd: "Wrth gwrs fod 'na."
Fe wnaeth cyhoeddiad Mr Jones ddydd Sadwrn dynnu sylw oddi wrth ffrae wnaeth ddatblygu yn dilyn ethol dirprwy arweinydd newydd Llafur yng Nghymru.
Carolyn Harris oedd yn fuddugol yn yr ornest, er iddi ddenu llai o bleidleisiau ymysg yr aelodau cyffredinol na Julie Morgan - a hynny oherwydd y system bleidleisio o goleg etholiadol ble mae mwy o bwyslais ar bleidleisiau ACau ac ASau, a grwpiau fel undebau llafur.
Dywedodd Ms Morgan wrth Sunday Supplement ei bod hi'n "hanfodol" bod arweinydd nesaf y blaid yn cael eu dewis drwy system un-aelod-un-bleidlais, a'i bod yn "eithaf hyderus" mai dyna fyddai'n digwydd.
"Dydyn ni ddim eisiau prif weinidog ac arweinydd Llafur i gael eu hethol mewn ffordd allai ganiatáu i rywun gael eu hethol heb gefnogaeth mwyafrif yr aelodau," meddai.
Dywedodd Mr Corbyn wrth BBC Cymru na fyddai'n ymyrryd yn y ras i olynu Carwyn Jones, na chwaith yn y ffrae dros ba system bleidleisio oedd Llafur Cymru am ddefnyddio yn yr etholiad hwnnw.
Olynydd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod yn ystyried olynu Mr Jones fel arweinydd, ond ei fod am "feddwl drwy bopeth" cyn penderfynu.
Dywedodd Mick Antoniw y byddai'n cefnogi Mr Drakeford petai'n sefyll, gan ei ddisgrifio fel "yr ymgeisydd gorau a mwyaf abl o bell ffordd".
Dyw ACau Llafur eraill gan gynnwys Jeremy Miles, Alun Davies a Huw Irranca-Davies hefyd heb ddiystyrru'r posibiliad.
Cyn ei araith ddydd Sul fe wnaeth Mr Corbyn dalu teyrnged i record Mr Jones fel prif weinidog, gan ddweud: "Mae Carwyn wedi arwain Llafur Cymru i lwyddiant digynsail yn etholiadol, gan ffurfio dwy lywodraeth Lafur yn y Cynulliad," meddai.
"Dros y naw mlynedd diwethaf mae wedi gwrthwynebu llymder y Ceidwadwyr a sefyll cornel Cymru fel llais cryf dros ddatganoli a democratiaeth."
Fe wnaeth yr arweinydd Llafur ganmol llwyddiannau'r blaid yng Nghymru gan gynnwys prydau ysgol am ddim, presgripsiynau am ddim, a'r gyfraith ar roi organau.
"Mae Carwyn wedi bod yn gefnogol iawn o Brexit fydd yn rhoi swyddi'n gyntaf ac sy'n gweithio i Gymru, gan gynnwys parhau'n aelod o'r undeb dollau," meddai Mr Corbyn.
"Rydw i'n talu teyrnged i ymroddiad diflino Carwyn i sicrhau bod Cymru'n wlad decach sydd yn gweithio dros y mwyafrif, nid y lleiafrif."
'Dechrau ffres'
Dywedodd Carwyn Jones wrth y gynhadledd yn Llandudno ddydd Sadwrn y byddai ei ymadawiad yn cynnig "dechrau ffres" i'w deulu, ei blaid a'r wlad.
Wrth gyfeirio at ei wraig, dywedodd: "Dwi ddim yn meddwl y gall unrhyw un wybod sut mae'r misoedd diwethaf wedi bod, oni bai am Lisa [ei wraig] a'r plant.
"Maen nhw wedi fy nghario i drwy'r cyfnodau tywyllaf. Rydw i wedi gofyn gormod ohonyn nhw ar adegau. Mae'n bryd i mi feddwl am beth sy'n deg iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018