Camerâu corff yn cael eu defnyddio i gofnodi trais mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Ymosod ar weithiwr iechydFfynhonnell y llun, Getty Images

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yw'r diweddaraf i roi camerâu i staff diogelwch ysbytai wisgo ar eu cyrff, a hynny wedi 15,113 achos o ymosod yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r camerâu'n cofnodi'r ymosodiadau ac eisoes yn cael eu defnyddio ym mhedwar prif fwrdd iechyd Cymru er mwyn ceisio atal ymddygiad treisgar.

Dywedodd un nyrs sy'n gweithio mewn uned ddamweiniau ac achosion brys ei fod yn dioddef ymosodiad yn wythnosol ac un tro fe gydiodd claf yn ei wddf.

Mae'r camerâu, meddai'r nyrs, yn golygu mai "nid ein gair ni yn erbyn gair y claf" yw'r sefyllfa bellach.

Yn ôl pennaeth diogelwch un bwrdd iechyd, mae'r camerâu'n "gwella'r ffordd y mae cleifion, staff ac ymwelwyr yn ymddwyn".

Tystiolaeth

Cafodd y camerâu eu cyflwyno gyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yn 2013 ac maent yn cael eu gwisgo gan bob aelod o staff diogelwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Bellach mae byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf, Betsi Cadwaladr ac Abertawe Bro Morgannwg yn defnyddio'r camerâu er mwyn ceisio gostwng nifer yr ymosodiadau ar staff ac er mwyn cael tystiolaeth o ddigwyddiad.

Staff diogelwch, staff meysydd parcio a swyddogion sy'n gweithredu polisi ysmygu sy'n gwisgo'r camerâu gan amlaf.

Mae'r camera o'r un maint â ffôn glyfar a chyn i'r recordio ddechrau mae pobl yn cael rhybudd.

Ymosodiadau 'bron yn wythnosol'

Dywedodd nyrs sy'n gweithio yn uned ddamweiniau ac achosion brys Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ei fod yn derbyn camdriniaeth eiriol neu fygythiadau "bron yn wythnosol".

"Mae'r bobl sy'n defnyddio iaith sarhaus yn aml o dan ddylanwad cyffur neu â phroblem camymddwyn.

"Ry'n yn trio siarad â nhw a'u trin fel pobl sydd o dan bwysau. Ry'n yn ceisio tawelu'r sefyllfa. Dyw hynny ddim wastad yn gweithio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y nyrs ymhellach fod claf ar un adeg wedi cydio ynddo gerfydd ei wddf - yn ddiweddarach nodwyd bod y person hwnnw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

"Mae'r swyddogion diogelwch yn gwisgo camerâu corff, mae hynny'n golygu mai nid ein gair ni yn unig yw'r honiadau ac mae'r camerâu i raddau helaeth yn cefnogi beth ry'n ni'n ei ddweud."

Dyw staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n rheoli ysbytai Llwynhelyg, Bronglais a Glangwili ddim yn gwisgo'r camerâu.

Cafodd bron i 1,400 o ddigwyddiadau treisgar eu cofnodi ar dir Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn 2017/18.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod camerâu wedi cael eu defnyddio i "ddarparu tystiolaeth a fyddai'n arwain at erlyniadau".

'Yn well na CCTV'

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod ganddyn nhw bolisi "dim goddefgarwch" at drais a bod y camerâu yn "galluogi staff i wneud eu dyletswyddau".

Dywedodd Joe Teape, un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod "trais yn peryglu gweithwyr iechyd ac yn eu hatal rhag gwneud eu gwaith o ofalu am eraill".

"Dyw ein staff ddim yn gwisgo camerâu ond rydyn ni'n annog staff i roi gwybodaeth i ni am unrhyw achos o drais ac ymddygiad ymosodol fel bod modd erlyn os yw hynny'n addas.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Erlyn y Goron ac mae gennym gytundeb aml-asiantaeth i ddelio ag ymosodiadau ac i ddiogelu ein staff a'r cleifion."

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Damian Winstone: "Fe gyflwynon ni'r camerâu yn 2013 a bellach mae ein holl staff diogelwch yn eu gwisgo.

"Mae'r camerâu yn tynnu llun o bopeth wrth i chi symud ac yn fwy effeithiol na'r camerâu cylch cyfyng traddodiadol.

"Maent wedi recordio gwybodaeth fanwl sydd wedi arwain at gael troseddwyr yn euog am bob math o droseddau.

"Mae'r defnydd o gamerâu yn gwella'r ffordd y mae cleifion, staff ac ymwelwyr yn ymddwyn."