Caniatâd i Rali Cymru GB orffen ar brom Llandudno

  • Cyhoeddwyd
OrmeFfynhonnell y llun, Rali GB Cymru

Mae trefnwyr Rali Cymru GB wedi cyhoeddi y bydd cymal olaf y ras ym mis Hydref eleni yn gorfffen ar y prom yn Llandudno.

Roedden nhw wedi bwriadu cyhoeddi llwybr y rali ganol mis Ebrill, ond doedd y cynlluniau heb gael cymeradwyaeth corff rheoli'r gamp, yr FIA, ar y pryd.

Erbyn hyn mae trefnwyr wedi cael caniatâd i gau rhai ffyrdd cyhoeddus am y tro cyntaf erioed er mwyn i'r ceir gael rasio o gymal i gymal.

Bydd y rali'n mynd ar ffyrdd o amgylch Llandudno hefyd, o flaen torf disgwyliedig o ddegau o filoedd o bobl.

'Carreg filltir'

Bydd y rali yn cychwyn nos Iau, 4 Hydref ar drac Tir Prince yn Nhowyn, gyda chystadlaethau trac cyflym.

Dydd Gwener, bydd y rali yn cychwyn yng nghoedwig Clocaenog, a bydd rhai ffyrdd cyhoeddus ar gau wrth i'r cymal barhau yn y prynhawn yng nghoedwig Penmachno, cyn gwibio o amgylch y tir ger ogofau Chwarel Llechwedd.

Bydd y daith yn parhau dydd Sadwrn gyda phum cymal yn y mynyddoedd i'r dwyrain o Aberystwyth, cyn cloi dydd Sul gyda rasus yn Eryri, rasio ar y Gogarth yn Llandudno ac ar strydoedd y dref.

Ffynhonnell y llun, Rali GB Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rali hefyd yn cynnwys cymalau yng nghoedwigoedd Clocaenog a Phenmachno a Chwarel Llechwedd

Disgrifiad,

Rali Cymru GB i orffen ar prom Llandudno?

Yn ôl y trefnwyr mae'r newid yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatau i awdurdodau lleol ildio'r Ddeddf Trafnidiaeth Ffordd ar gyfer digwyddiadau ralïo yn garreg filltir bwysig.

Dywedodd Rheolwr Cyfarwyddwr Rali Cymru GB, Ben Taylor: "Rydyn ni wedi'n cyffroi gan olwg ddramatig llwybr newydd y rali eleni.

"Roedd hi'n anhygoel y llynedd, diolch i fuddugoliaeth Elfyn Evans, ond mae'r newid mewn cyfreithiau, i'n caniatau i ralïo ar strydoedd cyhoeddus, yn golygu bod na wedd newydd i'r rali eleni.

"Mae'n mynd i fod yn rali i'w chofio."