Achos car Casnewydd: Mwy o amser i holi
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu Gwent, sy'n ymchwilio i ddigwyddiad difrifol yng Nghasnewydd yn ystod oriau mân fore Sul, wedi cael caniatad gan farnwr i holi tri o ddynion am 36 awr ychwanegol.
Mae tri dyn lleol - un sy'n 18 oed a'r ddau arall sy'n 19 oed - yn cael eu hamau o fod â chysylltiad gyda digwyddiad pan gafodd aelodau o'r cyhoedd eu hanafu gan cerbyd ar un o strydoedd Casnewydd.
Mae dwy fenyw yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol. Cafodd dyn a menyw arall eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Llun.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd cerbyd Ford C-Max, lliw glas, wedi ei gofrestru yn 2004, ei ddefnyddio yn y digwyddiad.
Cafodd y cerbyd hwnnw ei weld ddiwethaf yn gyrru tuag at cyfeiriad Maindy, cyn cael ei ddarganfod wedi ei losgi'n ulw ar Stryd Magwyr.
Ar y pryd cafodd y digwyddiad ei ffilmio gan sawl aelod o'r cyhoedd, ac mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r achos yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau ohono ar eu ffonau symudol, i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl fyddai â lluniau fideo wedi eu tynnu gan gamera ar flaen eu cerbydau cyn, neu ar ôl y digwyddiad, i anfon y deunydd at y swyddogion ymchwilio.