Arestio pedwar ar ôl i gar daro pobl yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl bellach wedi cael eu harestio ar ôl i gar daro pobl yng Nghasnewydd ddydd Sul.
Cafodd pedwar person eu cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw gael eu taro gan y car, wnaeth ddim stopio yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Cambrian am tua 05:30.
Ddydd Sul, dywedodd Heddlu Gwent bod dyn lleol 18 oed wedi ei arestio.
Bore Llun ychwanegon nhw bod dau ddyn arall, 18 ac 19 oed, a dynes 22 oed o Gasnewydd hefyd wedi cael eu harestio.
Mae'r ddynes wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac mae hi wedi ei rhyddhau dan ymchwiliad.
Mae dyn a dynes gafodd eu hanafu wedi eu rhyddhau o Ysbyty Brenhinol Gwent, ond mae dwy ddynes yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n credu bod y digwyddiad yn ymwneud â therfysgaeth na Marathon Casnewydd, ac mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018