Sglerosis ymledol: Angen codi ymwybyddiaeth o symptomau
- Cyhoeddwyd
Rhaid i bobl fod yn fwy ymwybodol o'r arwyddion o math benodol o sglerosis ymledol er mwyn cael diagnosis a thriniaeth gynnar, meddai elusen.
O'r 5,000 o bobl sy'n byw gydag MS yng Nghymru, mae 85% o'r rheiny yn dioddef o'r math sy'n mynd a dod - MS atglafychol-ysbeidiol - yn ôl Cymdeithas MS Cymru.
Mae'r math yma o MS yn golygu bod symptomau - blinder, colli balans a phroblemau golwg - yn dod mewn cyfnodau, ac yna'n gallu diflannu'n llwyr.
Dywedodd yr elusen bod cael mynediad at driniaethau yn gynnar yn lleihau'r tebygrwydd o gael ail bwl o'r salwch.
'Symptomau gwahanol i bawb'
Ychwanegodd yr elusen bod tair gwaith cymaint o fenywod a dynion yn cael diagnosis o'r math yna o sglerosis ymledol.
Ond dywedodd Cymdeithas MS Cymru nad ydyn nhw'n gwybod pam bod cymaint o wahaniaeth rhwng menywod a dynion.
Dywedodd Lynne Hughes o Gymdeithas MS Cymru: "Y broblem fwya' gydag MS ydy mae'n dibynnu pa ran o'ch system nerfol canolog sydd o dan warchae ar y pryd, mae'r symptomau'n gallu bod yn wahanol i bawb, ac felly mae'n afiechyd anodd i'w adnabod.
"Ond os ydych chi'n cael unrhyw symptomau sy'n ymwneud a'r llygaid, problem cydbwysedd neu symud mae'n werth siarad gyda'ch meddyg teulu fel eich bod yn gallu mynd i weld niwrolegydd."
Mae'r mwyafrif o gleifion yn derbyn diagnosis yn ystod eu 20au a'u 30au, ac mae hi'n hanfodol fod pobl yn ymwybodol o symptomau gwahanol fathau o sglerosis ymledol i sicrhau diagnosis cynnar, meddai'r elusen.
Ychwanegodd y gymdeithas y gall sicrhau mynediad at driniaethau o'r enw therapïau addasu clefyd leihau'r tebygrwydd o gael ail bwl o'r salwch.
Mae'r driniaeth yn lleihau gweithgaredd y system imiwnedd, ac er nad yw'n gwella'r MS, mae'n golygu bod llai o niwed yn cael ei wneud i'r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.
'Sioc enfawr'
Cafodd Fran Caunt, athrawes a mam i dri o blant o Gaerdydd, ddiagnosis o MS atglafychol-ysbeidiol yn 2015.
Roedd Ms Caunt yn 34 pan ddechreuodd hi ddangos symptomau o'r cyflwr.
Fe ddechreuodd y symptomau fel poenau a theimlad anghyfforddus yn ei dwylo a'i thraed, cyn iddi ddeffro un bore gyda chysgod llwyd yn ei llygad chwith.
Disgrifiodd Ms Caunt y profiad: "Gallwn i weld yn iawn, ond roedd pethau yn llwyd ac ychydig yn dywyll."
Ar ôl sgan MRI ac ymweld â meddygon ar sawl achlysur, cafodd hi'r diagnosis o MS atglafychol-ysbeidiol, oedd yn "sioc enfawr" yn ôl Ms Caunt.
"Er fy mod i'n deall fy mod i'n dangos rhai o symptomau MS, ac wedi cael fy mhrofi amdano, doeddwn i erioed wedi ystyried y byddai'r cyflwr gen i."
Ers 1956 mae'r Gymdeithas MS wedi buddsoddi dros £155m wrth ymchwilio'r cyflwr, o ganlyniad mae yna 12 therapi addasu clefydau ar gael a'r posib o gyffuriau newydd i drin y cyflwr yn y dyfodol.
Mae mynd at eich meddyg yn syth os ydych yn dangos symptomau MS yn hanfodol yn ôl Ms Caunt, a gall gael wir effaith ar opsiynau o ran diagnosis a thriniaeth y claf.
"Rydw i'n teimlo mor lwcus fy mod i wedi gallu derbyn triniaeth mor fuan wedi'r diagnosis."
Ym mis Ionawr 2018 fe dderbyniodd Ms Caunt ei hail gwrs o driniaeth ac mae hi bellach yn iach a heb gael ail bwl o'r salwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017