Rheolwyr gwestai yng Nghaerdydd yn poeni am y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Central Square
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r orsaf bws newydd yn cael ei chodi ar y Sgwâr Canolog ar waelod Heol y Porth

Mae rheolwyr rhai o hen westai Caerdydd yn ofni nad yw'r gwestai bellach yn rhwydd i ymwelwyr eu cyrraedd.

Cafodd gwestai'r Royal a'r Sandringham ar Heol Eglwys Fair eu codi yn yr 1800au ond yn 2010 fe gafodd y ffordd ei gwneud yn un i gerddwyr yn unig.

Mae rheolwyr yn ofni y bydd cau mwy o ffyrdd a gwaredu meysydd parcio o gwmpas y gwestai yn cael effaith ar eu busnes.

Bwriad Cyngor Caerdydd yw lleddfu tagfeydd traffig a gostwng llygredd yn y brifddinas ond maent wedi dweud y byddant yn ymgynghori cyn cyflwyno y cynlluniau terfynol.

Eisoes mae 'na lai o le parcio wedi i faes parcio Stryd Wood gael ei ddymchwel yn 2017.

Mae 'na ofnau y bydd Heol y Porth (Westgate) yn datblygu i fod yn ffordd i fysiau yn unig yn sgil datblygiadau ar y Sgwâr Canolog - fe allai hynny gael effaith bellach ar westai sydd wedi'u lleoli ar Heol Eglwys Fair.

Dywedodd Simon Dutton, rheolwr Gwesty'r Sandringham: "Doeddwn i ddim o blaid gwneud Heol Eglwys Fair yn ffordd i gerddwyr - roeddwn i wedi gobeithio mai stryd teithio un ffordd y byddai hi.

"Ond nawr mae'n ymddangos y bydd Heol Eglwys Fair a Heol y Porth ar gau i drafnidiaeth. Os felly gallai ein busnes ddod i ben ymhen blwyddyn.

"Be sy'n fy mhoeni i yw nad oes digon o feddwl wedi bod y tu ôl i'r cynlluniau."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heol Eglwys fair ei chau i gerbydau yn 2010

Dywedodd yr Athro Max Munday o Ysgol Fusnes Caerdydd :"Mewn dinasoedd mwy yn aml does 'na ddim lle parcio gan westai - a does 'na ddim ateb hawdd i'r broblem."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan ac fe ychwanegodd: "Bydd yn rhaid i ni ystyried llif y traffig o gwmpas y brifddinas yn sgil agor yr orsaf bws newydd a dyfodiad tebygol y Metro."

Ychwanegodd bod y cyngor am ostwng y ddibyniaeth ar geir a datblygu ffyrdd cynaliadwy o deithio.

Ond fe gyfaddefodd bod yn rhaid i fusnesau dderbyn nwyddau a bod yn rhaid i westai fod o fewn cyrraedd i bobl.

Dywedodd hefyd bod datblygu safle Bragdy Brains yn mynd i gynnig mwy o le parcio.