Methu targedau rhestau aros yn costio £3.1m i fwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr health board
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu 670,000 o bobl ac â chyllid o £1.3bn

Bydd yn rhaid i fwrdd iechyd ad-dalu £3.1m ar ôl methu targed i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hiraf am driniaeth ysbyty.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething bod roedd disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr haneru nifer y cleifion yn y gogledd sy'n aros am fwy na naw mis am driniaeth erbyn mis Mawrth.

Fe gafodd y bwrdd £11m er mwyn lleihau rhestrau aros.

Ond er i nifer y cleifion ostwng 34% i 5,714 ers cyhoeddi manylion y cyllid ym mis Awst, mae'n dal yn brin o'r targed sef 4,237.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi £50m yn ychwanegol i fyrddau iechyd ar draws Cymru i ostwng amseroedd aros ar gyfer triniaethau cyn llawdriniaeth, diagnosteg a therapïau arbenigol.

Ond roedd y cyllid ychwanegol yn ddibynnol ar gwrdd targedau, gyda'r posibilrwydd o orfod ad-dalu canran o'r arian.

Mae nifer y cleifion sy'n aros am o leiaf naw mis am driniaeth yn uwch yn ardal Betsi Cadwaladr nag yn unrhyw ardal arall ers gwanwyn 2017.

Mae'r bwrdd hefyd yn dal yn cael ei redeg dan fesurau arbennig, ac roedd diffyg ariannol o £38.7m yn ei gyllideb ddiwedd Mawrth - £2.7m yn fwy nag oedd disgwyl.

Dros dair blynedd mae'r diffyg yn £88.1m.

'Gwelliant... ond angen mwy o waith'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig nodi, er y methiant i gwrdd â'r targed, bod gwybodaeth gan y bwrdd iechyd wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion yn aros dros 36 wythnos yn ystod chwarter olaf 2017-18 o'r ffigwr uchaf yn Rhagfyr 2017"

"Rydym yn croesawu'r gwelliant ond mae angen mwy o waith a ffocws i sicrhau bod hyn yn parhau i chwarter cyntaf 2018-19 a thu hwnt."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod nifer y cleifion yn aros dros 36 wythnos am driniaeth wedi gostwng o 10,365 yn Rhagfyr ond eu bod "yn dal yn brin o'r targed a osodwyd"

Ond yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, AC Ynys Mon Rhun ap Iorweth, mae cleifion wedi dweud wrtho eu bod yn "taro'u pennau yn erbyn wal" gyda rhwystredigaeth.

Dywedodd: "Maen nhw naill ai yn wynebu gorfod aros yn hir neu mae eu llawdriniaethau'n cael eu canslo.

"Naill ai mae'r arian heb ei wario neu mae'r bwrdd iechyd wedi cael dirwy. Mae hynny'n awgrymu bod Betsi Cadwaladr, sydd i bob pwrpas yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru [tra'i fod dan fesurau arbennig], yn methu targedau sy'n rhesymol iawn. Yn pen draw nid dirwy mae cleifion yn dymuno ond triniaeth fuan."