Ateb y Galw: Dewi 'Corn' Griffiths

  • Cyhoeddwyd
Dewi Griffiths

Dewi 'Corn' Griffiths, yr arweinydd bandiau pres a chwaraewr y Corn Gwlad, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Betsan Powys yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio bod ar fy ngwyliau yn Ffrainc pan oeddwn i tua 5 oed. Wedi mynd mewn carafan oedda' ni fel teulu, a'r hyn dwi'n ei gofio yw mynd i fy ngwely pob nos ond yn deffro ar y llawr pob bore! Hyd heddiw dwi ddim yn gwybod os mai rowlio allan o'r gwely oeddwn i neu beth... ond mae hwnnw'n un o'n atgofion cyntaf.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pamela Anderson. Gallai'm meddwl am yr un hogyn yn ôl yn y 90au oedd ddim yn ei ffansio hi. Hi oedd yr ultimate blonde bombshell pan roeddwn yn tyfu fyny.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio chwarae'r cornet yn y gwasanaeth yn Ysgol Gynradd Bethel ac roedd Dad wedi glanhau'r offeryn y diwrnod cynt, ac os oes rhywun yn gwybod unrhyw beth am offerynnau pres, mae rhaid i'r valves fynd i fewn y ffordd cywir neu does dim gwynt yn gallu mynd trwy'r offeryn.

Wrth gwrs, doedd Dad heb roi'r offeryn at ei gilydd yn gywir, felly pan nes i ddechrau chwythu doedd dim gwynt yn gallu mynd trwy'r offeryn... ac roedd pawb yn edrych arna i a doedd dim roeddwn yn gallu ei wneud! Fe wnes i ddysgu sut i edrych ar ôl yr offeryn yn gywir ar ôl hynny a pheidio gadael i Dad fynd yn agos ato!

Disgrifiad o’r llun,

Tybed ai Paul Corn neu Dewi Corn sy'n edrych ar ôl eu hofferynnau eu hunain cyn pob seremoni Eisteddfodol?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Mae pobl sydd yn fy adnabod i yn dda yn gwybod fy mod yn crïo am ddim byd weithiau, ond pan roeddwn yn gwylio'r rhaglen deledu am lofruddiaeth James Bulger mae'n rhaid dweud fod ambell i ddeigryn bach wedi ymddangos.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pwy sydd heb rai? Cnoi a pigo ewinedd fy nwylo! Dwi'n falch o dd'eud fy mod ddim yn gwneud yr un peth i winedd fy nhraed!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adref. Er fy mod yn byw lawr yn y de ers rhyw 12 o flynyddoedd bellach, does unman yn debyg i gartref ac wrth gwrs fe ges i fy magu ar droed Yr Wyddfa, felly mi fydd yr ardal yna yn agos i nghalon am byth.

Ffynhonnell y llun, Richard Outram
Disgrifiad o’r llun,

Yr Wyddfa a Llyn Llydaw - mae Eryri yn llawn golygfeydd gogoneddus!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n meddwl fod un o'r nosweithiau gorau i mi ei chael chydig yn fuzzy, sef ar ôl i Fand Tredegar ennill y gystadleuaeth British Open yn Birmingham nôl yn 2013, ac fe ges i'r wobr am yr offerynnwr gorau drwy'r gystadleuaeth i gyd! Mi roedd lot o ddathlu wrth reswm, ac dwi'n siŵr ei bod hi wedi bod yn noson dda iawn!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cerddorol. Cyfeillgar. Hapus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Mae rhaid i mi dd'eud mod i ddim yn darllen o gwbl - 'dio jest ddim yn apelio ataf, ond mi rydw i'n hoffi ffilm. Dydw i ddim yn gallu meddwl am un ffilm penodol, ond i ddweud y gwir mae unrhyw un o'r ffilmiau Star Wars yn mynd i fod ar y rhestr rhywle, ac os dwi'n bod yn onest, unrhyw ffilm sydd gyda soundtrack John Williams. I mi, mae'r gerddoriaeth yr un mor bwysig â'r sgript, a does neb cystal â John Williams am gyfansoddi ar gyfer ffilmiau.

O Archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Einstein. Dwi'n meddwl byddai cael bod yn ei gwmni am 'chydig o oriau yn wych. Byddai'n grêt cael sgwrs dros beint neu ddau, rhoi'r byd yn ei le, a hefyd gweld beth fyddai ei ymateb ynglŷn â Brexit!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Bron iawn i mi symud i Norwy i fyw nôl yn 2015. Dwi wedi bod allan yno nifer o weithiau yn chwarae gyda bandiau pres gwahanol o amgylch y wlad, ac mae'r byd bandiau pres yn ddisglair iawn allan yno.

Yn 2014 fe wnes i chwarae gyda band pres Eikanger-Bjørsvik ym Mhencampwriaeth Ewrop ac yn dilyn hyn fe ges i wahoddiad i fynd allan yno i chwarae gyda nhw'n llawn amser ac roedd cynnig am 'chydig o waith dysgu hefyd, ond doedd yr amseru ddim yn grêt ac wrth gwrs fel pob sefydliad mae'n rhaid i'r swydd cael ei llenwi, felly fe aeth y cyfle heibio.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi'n meddwl fyswn i'n trio gweld os oes unrhyw Guinness World Record y buaswn yn gallu torri yn fy oriau olaf, a rhoi cynnig arni!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dewi yn arwain Band Pres Dinas Caerdydd yn y gystadleuaeth Band Cymru 2018, mewn perfformiad gafodd ei ganmol

Beth yw dy hoff gân a pham?

I fod yn hollol onest, dydw i ddim yn gwrando ar lot o gerddoriaeth. Dwi'n dysgu offerynnau pres trwy'r dydd, bob dydd mewn ysgolion, ac yn rhoi gwersi preifat ar ôl ysgol, ac yna pedair noson bob wythnos dwi mewn ymarferion band pres (Band Tredegar a Band Pres Dinas Caerdydd)...

Felly pan dwi mewn mood i wrando ar gerddoriaeth, mae fel arfer yn unrhyw beth ffilm gan John Williams neu efallai rhai o glasuron Oasis!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Bara garlleg a chaws. Cyri. Crème brûlée. Dim y cyfuniad gorau, ond i gyd yn ffefrynnau i mi!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Wynton Marsalis - fysai'n neis cael gwybod sut deimlad yw bod y trympedwr gorau yn y byd!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Mererid Hopwood