Carwyn Jones ddim am aros fel Aelod Cynulliad wedi 2021
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth ei gangen leol na fydd yn sefyll fel eu hymgeisydd Llafur eto yn etholiad Cynulliad 2021.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Mr Jones y byddai'n camu o'r neilltu fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru eleni, gydag olynydd yn cael eu dewis cyn diwedd y flwyddyn.
Mae nawr wedi cadarnhau na fydd chwaith yn parhau fel AC Llafur Pen-y-bont yn dilyn yr etholiadau nesaf.
Mae Mr Jones wedi cynrychioli'r sedd ers etholiad cyntaf y Cynulliad 19 mlynedd yn ôl, ac yn yr etholiad diwethaf yn 2016 fe sicrhaodd fwyafrif o 5,623.
'Adeg iawn i adael'
Wrth siarad â phwyllgor cyffredinol Cangen Llafur Pen-y-bont nos Wener, dywedodd: "Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf i mi fod yn brif weinidog Cymru, ond mae wedi bod yn bleser ychwanegol gallu cynrychioli ardal fy magwraeth am gyfnod o 22 mlynedd erbyn 2021.
"Mae bod y person cyntaf i gynrychioli Pen-y-bont yn senedd etholedig cyntaf Cymru yn rhywbeth y byddaf wastad yn ei drysori.
"Mae pobl Pen-y-bont wedi fy nghefnogi i mewn pum etholiad ac mae arnaf i bopeth rydw i wedi'i wneud mewn bywyd cyhoeddus i'r gefnogaeth maen nhw wedi'i roi i mi ers 1999.
"Gan fy mod i'n gadael fel prif weinidog ym mis Rhagfyr dwi'n meddwl ei bod hi ond yn iawn y dylwn i adael y Cynulliad yn yr etholiad nesaf.
"Hoffwn ddiolch i bobl Pen-y-bont, y blaid Lafur lleol, ac wrth gwrs, fy nheulu am eu cefnogaeth i mi dros y blynyddoedd.
"Fe fyddai'n canfod pethau eraill i'w gwneud nawr a dyw hyn ddim yn golygu fy mod yn camu o'r byd gwleidyddol ond mae'n bryd i ymgeisydd newydd ddod 'mlaen a chario'r ffagl."
Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones:
Ar ôl cyhoeddi ei fod yn camu o'r neilltu fel prif weinidog, ychydig iawn fydd yn synnu gyda'r cyhoeddiad yma gan Carwyn Jones na fydd yn sefyll eto yn yr etholiad nesaf.
Dywedodd mai anrhydedd oedd cael cynrychioli ardal ei gartref am bum etholiad, a'i bod hi'n iawn iddo roi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad, ond nad oedd am droi ei gefn yn gyfan gwbl ar wleidyddiaeth.
Mewn cyfweliad yn ddiweddar dywedodd na fyddai'n dychwelyd i fod yn fargyfreithiwr, ond wnaeth o ddim diystyru'r posibilrwydd o ymuno a Thŷ'r Arglwyddi.
Fel rhywun sydd wedi dangos diddordeb mawr mewn materion cyfansoddiadol byddai'r uwch siambr yn San Steffan yn gweddu, petai'n cael ei enwebu.
Ond cyn hynny oll, mae ymchwiliad dal heb ddechrau yn edrych ar ymddygiad Carwyn Jones wrth iddo ddiswyddo Carl Sargeant o'i gabinet y llynedd.
Roedd Mr Sargeant yn wynebu cyhuddiadau o gyffwrdd amhriodol ac aflonyddu ar ferched, honiadau yr oedd yn eu gwadu, pan gafodd ei ddarganfod yn farw ym mis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018