Dim cyhuddiadau yn achos marwolaeth merch ddwy oed

  • Cyhoeddwyd
Kiara MooreFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kiara Moore ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn dair oed

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau nad ydyn nhw am ddwyn cyhuddiadau mewn cysylltiad â marwolaeth merch ddwy oed a foddodd wedi i gar ei mam lithro i'r afon yn Aberteifi.

Dywedodd y llu mewn datganiad bod yr ymchwiliad i farwolaeth Kiara Moore "wedi dod i ben" a "bydd dim cyhuddiadau mewn cysylltiad â'r digwyddiad trasig yma".

Cafodd y ferch fach ei thynnu o gar Mini oedd wedi parcio ar lithrfa ger Afon Teifi ar 19 Mawrth.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael ei hedfan yno.

Roedd ymchwiliad yr heddlu'n cynnwys profion ar y car ac fe ddywedodd y cynhyrchwyr, cwmni BMW, ym mis Mawrth eu bod yn fodlon helpu'r awdurdodau mewn "unrhyw fodd posib" pe byddai angen.

Mae cwest i amgylchiadau marwolaeth Kiara wedi ei agor a'i ohirio.