Tabledi colli pwysau wedi achosi marwolaeth 'boenus'

  • Cyhoeddwyd
Eloise ParryFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Eloise Parry ar ôl mynd i uned frys yr ysbyty wedi iddi gymryd mwy o'r tabledi nag oedd yn cael ei argymell.

Mae llys wedi clywed bod myfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi marw "yn y ffordd fwyaf poenus" ar ôl cymryd tabledi colli pwysau roedd wedi eu prynu ar-lein.

Roedd Eloise Parry, 21 oed ac o'r Amwythig, wedi cymryd wyth tabled yn cynnwys y cemegyn diwydiannol dinitrophenol, sy'n cael ei adnabod fel DNP, cyn marw yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn Ebrill 2015.

Mae tri pherson yn gwadu nifer o gyhuddiadau gan gynnwys dynladdiad ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Harrow eu herlyn mewn cysylltiad â'i marwolaeth.

Dywedodd yr erlyniad wrth Lys y Goron Canol Llundain fod cymryd DNP yn debyg i "chwarae Russian roulette".

Clywodd y llys fod Ms Parry'n dioddef o'r anhwylder bwyta bwlimia.

Dywedodd Richard Barraclough QC bod "dynes ifanc a bregus... wedi marw yn y ffordd fwyaf poenus" ar ôl prynu "cemegyn wenwynig eithriadol" gan y diffynyddion ar y we.

'Gwybod bod y cemegyn yn beryglus'

Clywodd y rheithgor fod Ms Parry wedi dechrau cymryd y cemegyn mewn tabledi yn Chwefror 2015, a'i bod wedi dod yn gaeth iddyn nhw yn fuan wedi hynny.

Yn ôl yr erlyniad roedd y diffynyddion wedi prynu'r cemegyn mewn drymiau o China, ac wedi mynd ati i "dwyllo'r awdurdodau" gan wybod nad oedd yn addas i bobl eu cymryd.

Honnir iddyn nhw gynhyrchu'r tabledi o fflat yn Harrow, a'u gwerthu ar-lein am elw sylweddol, hyd yn oed ar ôl i'w gwefan gael ei ddileu.

Ychwanegodd Mr Barraclough bod y diffynyddion "yn gwybod fod DNP yn beryglus", yn rhannol am fod dau ohonyn nhw wedi cymryd y cemegyn eu hunain.

Roedd y tri, meddai, yn fwriadol wedi rhwystro ymdrechion cyrff fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Interpol i ddod â'r busnes i ben.

Dywedodd fod DNP yn "eithriadol wenwynig wrth gael ei lyncu, ei fewnanadlu neu'i amsugno trwy'r croen", ac yn achosi rhywun i golli pwysau trwy losgi braster a charbohydradau.

"Y canlyniad yw fod tymheredd a metaboledd person yn codi'n beryglus," meddai Mr Barraclough.

Clywodd y rheithgor fod DNP yn gallu achosi i organau fethu, gorboethi, cyfog, coma, ataliad ar y galon a marwolaeth.

"Yn ei hanfod, dyma ddigwyddodd i Eloise Parry", meddai Mr Barraclough.

Mae Albert Huynh, 33, o ogledd orllewin Llundain, a dau ddiffynnydd o Gosport - Bernard Rebelo, 30, a Mary Roberts, 32 - yn gwadu dau gyhuddiad yr un o ddynladdiad, un cyhuddiad yr un o gyflenwi bwyd anniogel ac mae Ms Roberts yn wynebu cyhuddiad pellach o ailgylchu arian.

Mae'r achos yn parhau.