47 Baner Las yn chwifio ar draethau Cymru eleni
- Cyhoeddwyd
Mae 47 o draethau, marinas a chwmnïau teithiau cychod yng Nghymru wedi ennill statws y Faner Las eleni, sydd 3 yn is na'r llynedd.
Mae hi'n 30 mlynedd ers sefydlu cynllun y faner yng Nghymru, sy'n cael ei rhoi i gydnabod ansawdd dŵr a safon amgylchedd traethau.
Yn ogystal â'r baneri, mae 19 o draethau yng Nghymru wedi cael y Wobr Arfordir Glas, a 83 wedi derbyn y Wobr Glan Môr, gan olygu cyfanswm o 149 o wobrau o'i gymharu â 98 y llynedd.
Yr sir sydd wedi ennill mwyaf o faneri eleni yw Sir Benfro - cyfanswm o 56 o Wobrau Arfordir .
Mae eleni'n flwyddyn arbennig gan ei bod yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu rhaglen y Faner Las yng Nghymru.
Traeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin oedd yr unig safle i gael y statws pan gafodd y rhaglen ei lansio ym 1988.
Y llynedd, cafodd y nifer uchaf erioed o safleoedd yng Nghymru y faner, sef 50.
Eleni does dim traethau wedi cael eu gwobrwyo o'r newydd, ac mae traethau Aberporth a Gogledd Aberllydan wedi cael y Wobr Arfordir Glas eleni yn hytrach na'r faner.
Dydy cwmni teithiau cychod Blue Ocean Adventures yn Nhyddewi ddim ar y rhestr y tro hwn.
O'r 47 sydd â'r statws, mae yna dri marina ac un cwmni teithiau cychod, sy'n golygu bod gan Gymru fwy o Faneri Glas fesul milltir nag unrhyw le arall yn y DU.
Mae dathliad 30 mlynedd y wobr yng Nghymru hefyd yn cydfynd â 'Blwyddyn y Môr' yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: "Mae'n wych gweld cymaint o'n traethau yn derbyn y gwobrau hyn, sydd yn dyst i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ein partneriaid a'n cymunedau ar hyd a lled Cymru i gadw ein traethau a'n dyfroedd yn lân.
"Y Faner Las yw nod safonau amgylchedd arfordirol uchel sy'n cael ei gydnabod ar draws y byd.
"2018 yw Blwyddyn y Môr yng Nghymru a chan fod Ras y Cefnfor Volvo'n dod i Gaerdydd fis nesaf, mae'n amser gwych i ddangos ein harfordir rhagorol i'r Byd."
Sefydliad Addysg yr Amgylchedd (FEE) sy'n gyfrifol am raglen y Faner Las yn rhyngwladol, gyda Cadwch Gymru'n Daclus yn ei gweithredu yng Nghymru,
Wrth siarad am arwyddocâd y gwobrau, dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus:
"Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o'r Faner Las yng Nghymru, mae'n bwysig cydnabod pwysigrwydd y gwobrau yn denu twristiaeth i gefnogi'r economi leol, gan roi ymdeimlad o falchder i'n cymunedau ac ysgogi ymwybyddiaeth ac amddiffyniad amgylcheddol. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2016
- Cyhoeddwyd22 Mai 2017
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017