Ymestyn cyfnod Ysgoloriaeth Llyndy Isaf i dair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Llyndy IsafFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Bydd cyfnod ysgoloriaeth i ffermwr ifanc gael rhedeg un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri yn cael ei ymestyn.

Fe ddechreuodd cynllun fferm Llyndy Isaf yn Nantgwynant yn ôl yn 2011, yn bartneriaeth rhwng Ffermwyr Ifanc Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Am gyfnod flwyddyn, mae'n gyfle i'r unigolyn sy'n cael ei ddewis i reoli diadell o ddefaid mynydd Cymreig a gyr o wartheg duon Cymreig.

Mae'r fferm hefyd yn cymryd rhan yng nghynllun Amaeth-Amgylcheddol Glastir ac yn cynnwys sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, felly mae pwyslais mawr ar ffermio cadwraethol.

Ers y dechrau, mae pump ffermwr ifanc wedi cael y cyfle i redeg y fferm fynydd, ac enillydd 2017 oedd Teleri Fielden o bentref Meifod yn Sir Drefaldwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Teleri Fielden a'i chi, Roy, ar dir fferm Llyndy Isaf

 hithau yno ers mis Medi diwethaf, dywedodd Teleri ar raglen Y Post Cyntaf, ei bod yn mwynhau'r profiad: "Dwi di dysgu cymaint, gena i lot mwy i ddysgu'n dal, ond dwi wrth fy modd.

"Dwi di cael lot mwy o gymorth nag o'n i'n ddisgwyl. Mae wedi bod yn galetach nag o'n i'n ddisgwyl ar adegau.

"Mae hi 'di bod yn andros o wlyb. Mae'r tymor 'di mynd yn hwyr o ran y glaswellt yn dod i fyny, a felly, digon o heriau, ond eto mae Nant Gwynant yn eitha gwlyb eniwe.

"Y prif beth dwi 'di mwynhau fwya', ond sy di bod yn heriol, ydy hel y defaid i mewn a gweithio efo'r defaid a thrio cadw i fyny efo criw Hafod y Llan."

Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr stâd Hafod y Llan, Arwyn Owen, yw mentor Teleri

Mentor Meleri yw Arwyn Owen, rheolwr ystad Hafod y Llan i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wrth drafod y datblygiad diweddaraf, dywedodd fod y rhai sy'n ymwneud â'r ysgoloriaeth yn teimlo ei bod hi'n bryd ailedrych ar y cynllun: "Cynllun prum mlynedd oedd o'n wreiddiol.

"Ar ddiwedd y pum mlynedd, roedd yn gyfle i ni eistedd i lawr ac edrych i weld sut oedd y cynllun wedi mynd - sut oedd y dyfodol yn edrych o ran yr hinsawdd amaethyddol ac yn y blaen.

"Yn naturiol yn y cyfnod hwnnw, mae di bod yn gyfle hefyd i drafod efo'r rhai sydd wedi bod yn Llyndy ac yn ehangach, sut y bydden nhw'n dymuno gweld yr ysgoloriaeth yn esblygu, ac yn sgil hynny i gyd, mi ddaethon ni i'r penderfyniad hwyrach rwan ydy'r amser i ymestyn y cyfnod i dair blynedd, ac yn amlwg mae gyda ni sgolor delfrydol yn Teleri."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Llyndy Isaf yn Eryri

Bydd Teleri felly'n cael aros yn Llyndy am dair blynedd - newyddion y mae hi'n ei groesawu'n fawr: "Bendigedig! Dwi'n rili hapus.

"Mae'n siawns i fi drio pethe allan, dysgu o be dwi di wneud blwyddyn yma, cario mlaen, gwella pethau ar y fferm hefyd a cario mlaen i ddysgu am gyfuno cadwraeth ac amaeth, a chario mlaen i fyw a throi yn Gog go iawn dwi'n meddwl!"

"Pan dwi di trio ffermio o'r blaen, dwi di bod yn gwneud pethau gwahanol, yn symud o gwmpas.

"Mae'r siawns i ganolbwyntio'n gyfangwbl ar ffermio jyst yn siawns anhygoel i mi, felly dwi'n hapus iawn amdano fo."