Cameron ac Osborne 'wedi gwrthod datganoli treth awyr'
- Cyhoeddwyd
Roedd David Cameron a George Osborne yn bersonol gyfrifol am wrthod galwadau i ddatganoli pwerau trethi awyr i Gymru, yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb nad oedd "wedi gallu perswadio" y prif weinidog a'r canghellor ar y pryd i newid y polisi yn 2015.
Ychwanegodd AS Preseli Penfro mai nawr o bosib oedd yr adeg i "ailedrych ar y sefyllfa".
Cafodd y dreth teithwyr awyr ei thrafod pan oedd Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i'r setliad datganoli wnaeth olygu trosglwyddo pwerau dros rai trethi i Fae Caerdydd.
'Amser ailedrych'
"Fe wnaethon nhw gytuno i nifer o'r newidiadau roeddwn i eisiau eu gwneud, ond roedd gormod o ansicrwydd a phryderon ynghylch y dreth awyr i gael y penderfyniad," meddai Mr Crabb, oedd yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 2014 a 2016.
Cafodd y mater ei godi gan yr AS yn ystod dadl yn Neuadd Westminster ynglŷn â pherthynas y DU a Qatar - mae Qatar Airways wedi dechrau hediadau uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha yn ddiweddar.
Ychwanegodd: "Ers amser maith mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddatganoli'r dreth teithwyr awyr iddyn nhw, fel eu bod nhw'n gallu ei ddefnyddio i ddatblygu'r farchnad hediadau tramor pell.
"Nes i ei roi ar y cofnod nad oeddwn i wedi gallu perswadio David Cameron na George Osborne i newid y polisi.
"Ond mae'n siŵr ei bod hi'n bryd ailedrych ar y sefyllfa, gan fod arweinyddiaeth Maes Awyr Caerdydd wedi bod mor llwyddiannus wrth fagu perthynas gyda'r Qataris."
Mae'r dreth awyr wedi ei datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae gweinidogion y DU wedi gwrthod ei datganoli i Gymru oherwydd pryderon y byddai'n rhoi Maes Awyr Bryste dan anfantais.
Llynedd fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ysgrifennu at Theresa May yn rhybuddio fod Llywodraeth y DU yn "tanseilio ein safle economaidd" o'i gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill drwy wrthod newid eu polisi.
Mae Mr Jones wedi dweud y byddai'n gostwng y dreth teithwyr awyr petai'n cael ei ddatganoli i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018