2017: Blwyddyn gofiadwy i'r celfyddydau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ym myd y celfyddydau mae 2017 wedi bod yn flwyddyn o gynyrchiadau cofiadwy a dramâu gefn llwyfan.
Theatr Genedlaethol oedd wedi cyflwyno addasiad newydd o un o glasuron Shakespeare wrth fynd â Macbeth i gastell a'i ddarlledu i'r sinemâu.
Ac roedd ei drama Hollti, gafodd ei chyflwyno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi troi geiriau go iawn yn berfformiad oedd yn adlewyrchu dwy ochr y ddadl dros adeiladu atomfa niwclear newydd yn Wylfa.
Yn Saesneg, Theatr y Sherman oedd wedi llwyddo i gyflwyno dramâu grymus a phoblogaidd. Killology ym mis Mawrth, ac addasiad newydd o The Cherry Orchard yn yr hydref.
Ond er i sioe gerdd newydd Canolfan Mileniwm Cymru, Tiger Bay, blesio'r gynulleidfa ac ambell i adolygydd Cymreig, roedd beirniaid y wasg Brydeinig yn anhapus gyda'r cynhyrchiad.
Bu'r celfyddydau Cymraeg hefyd yn cofio'r rhai fu farw eleni. Yn eu plith y dramodwr , dolen allanol, yr actores , dolen allanol a'r arlunydd Aneurin Jones.
Storom lenyddol?
Roedd byd y llyfrau wedi syrthio i ganol storom fyddai'n gallu llenwi tudalennau cyfrol swmpus.
Cadeiriodd yr Athro Medwin Hughes banel i adolygu gwaith Llenyddiaeth Cymru a'r Cyngor Llyfrau, ac i asesu'r sector ehangach.
Daeth i'r casgliad bod rhaid trosglwyddo'r mwyafrif o gyfrifoldebau'r Cyngor i'r corff arall, a thra bod y Cyngor yn ymddangos yn hapus gyda'r casgliadau, roedd wedi ysgogi ymateb chwyrn gan Lenyddiaeth Cymru.
Dywedodd cadeirydd y corff ei fod wedi'i "gythruddo" gan adolygiad llawn "camgymeriadau".
Er i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ddweud ei fod yn barod i dderbyn y casgliadau, dydy Llywodraeth Cymru ddim eto wedi gwneud penderfyniad.
Mae hynny'n rhannol oherwydd penodiad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i'w swydd newydd fel Gweinidog Diwylliant y llywodraeth, ac mae ef am aros i bwyllgor diwylliant y Cynulliad gyflwyno adroddiad ar y pwnc cyn cyhoeddi'r camau nesaf.
Adolygiad arall
Yn y byd darlledu mae'r gwleidyddion hefyd yn dal nôl rhag ymateb i adroddiad arall - y tro hyn, am ddyfodol S4C.
Fe gyflwynodd Euryn Ogwen Williams ei asesiad o S4C i ysgrifennydd diwylliant San Steffan ddechrau mis Rhagfyr. Mae pennaeth newydd S4C, Owen Evans, eisoes wedi dweud nad yw'n disgwyl cynnydd yn ei gyllideb yn sgil yr adroddiad.
Bydd rhaid aros tan 2018 i glywed casgliadau Euryn Ogwen, a'r ymateb.
Ym myd y celfyddydau gweledol roedd James Richards wedi serennu yn Fenis fel cynrychiolydd Cymru yn y Biennale Celf.
John Akomfrah oedd yn fuddugol yng ngwobr gelf Artes Mundi yng Nghaerdydd. Fe gurodd y Cymro Bedwyr Williams a phedwar artist arall i gipio'r £40,000.
A'r ffotograffydd David Hurn oedd wedi rhoi ei gasgliad anhygoel o luniau i'r Amgueddfa Genedlaethol, gyda detholiad ohonynt yn mynd yn syth ar y wal.
Mae 2018 yn cynnig atebion i drafferthion gwleidyddol y byd celfyddydau a darlledu. Ac fe fydd ambell i helynt newydd hefyd, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn troedio tir newydd ym Mae Caerdydd a'r cyfryngau yn croesawu Radio Cymru 2 ac atgyfodiad Y Cymro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd3 Awst 2017
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd16 Mai 2017
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2017