Cyfyngiadau ffliw adar Cymru i ddod i ben ar unwaith

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau ffliw adar Cymru yn dod i ben ar unwaith.

Fe wnaeth Leslie Griffiths y penderfyniad wedi i asesiad risg milfeddygol gael ei wneud gan Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Fe benderfynodd yr asiantaeth bod y risg o'r clefyd yn dod i'r wlad drwy adar gwyllt wedi lleihau o uchel i isel.

Penderfynwyd bod y risg i ddofednod hefyd yn isel.

Daeth y cyfyngiadau i rym ddiwedd Ionawr wedi tri canfyddiad ar wahân yn Lloegr o'r hyn sy'n cael ei adnabod fel 'ffliw adar pathogenig iawn H5N6' mewn adar gwyllt.

Yng Nghymru, dim ond un achos a gafwyd mewn adar gwyllt eleni a doedd 'na ddim achos o ffliw adar H5N6 mewn dofednod yn y DU.

lesley

'Bygythiad cyson'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Ym mis Ionawr, cafwyd datganiad gennyf bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar mewn ymateb i achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 yn Lloegr.

"Roedd hwn yn fesur gofalus i leihau'r risg o heintio dofednod yma yng Nghymru.

"Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa ers hynny ac mae'r asesiad risg diweddaraf gan APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) wedi dod i'r casgliad bod y risg wedi gostwng o uchel i isel ar gyfer adar gwyllt ac mae'r risg i ddofednod hefyd yn isel.

"Yn seiliedig ar y cyngor milfeddygol hwn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan yn dod i ben ar unwaith.

"Rwyf yn siŵr y bydd croeso mawr i'r newydd hwn ond mae'n bwysig cofio bod ffliw adar yn parhau'n fygythiad cyson a real iawn i'n dofednod ac adar caeth eraill."

Angen cofrestru

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: "Hoffwn bwysleisio'n gryf bod angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill barhau i fod yn wyliadwrus a chadw llygad am arwyddion o'r clefyd a pharhau i ddefnyddio'r arferion bioddiogelwch gorau un.

"Os bydd unrhyw un yn amau bod adar yn dioddef o'r clefyd, dylai gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith.

"Hoffwn hefyd atgoffa'r rheini sy'n cadw 50 neu fwy o ddofednod fod yn rhaid iddynt gofrestru eu heidiau ar y Gofrestr Ddofednod a byddwn yn annog yn gryf i bawb sy'n cadw dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i gofrestru.

"Bydd hynny'n sicrhau y gellir cysylltu â hwy ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid yn gyflym a lleihau'r perygl o heintio."