Ffliw adar mewn aderyn gwyllt ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
boncath

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod aderyn gwyllt gafodd ei ddarganfod yn farw yn Y Barri, Bro Morgannwg, wedi ei heintio gyda ffliw adar.

Roedd yr aderyn wedi ei heintio gyda'r straen H5N6 o'r feirws, sef yr un straen a gafwyd mewn adar gwyllt yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf.

Daethpwyd o hyd i'r bwncath yn farw, a chafodd ei gyflwyno ar gyfer profion fel rhan o'r cynllun 'Parth Atal' a gyflwynwyd yng Nghymru ar 25 Ionawr, fel ymgais i rwystro'r clefyd rhag lledaenu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw'r straen yma o ffliw yn effeithio ar bobl, ac mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn isel o ganlyniad i'r darganfyddiad.

defraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru am i bobl gysylltu gyda Defra os ydynt yn darganfod elyrch, gwyddau, ieir, hwyaid neu wylanod wedi marw

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Cyn darganfod yr aderyn gwyllt yn Y Barri, cafodd achosion eu darganfod hefyd mewn adar gwyllt yn Lloegr a gweddill Ewrop.

"Nid yw'n syndod gweld y ffliw adar yr adeg hon o'r flwyddyn ac mae wastad risg o wneud hynny.

"Mae hyn yn dilyn ein hapêl ddiweddar ar geidwaid adar i gadw golwg ar eu hadar ac i ddilyn y mesurau bioddiogelwch llymaf a chyflwyno Parth Atal ledled Cymru ar 25 Ionawr i leihau'r risg i ddofednod ac adar caeth eraill.

"Mae'r Parth yn dal i fod yn ei le ac rydym yn teimlo bod y gofynion bioddiogelwch presennol yn ddigon cryf er darganfod yr aderyn marw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi apelio ar y cyhoedd i gysylltu gyda llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 os ydynt yn darganfod elyrch, gwyddau, ieir, hwyaid neu wylanod wedi marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt o rywogaeth arall yn farw yn yr un lle.