Canmol 'criw bach' yn cyrraedd targed cronfa leol yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn wedi canmol ymdrechion "ardderchog... criw bach o bobl" sydd wedi llwyddo i godi dros £100,000 ar gyfer yr ŵyl eleni.
Daeth cadarnhad ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl ieuenctid ym Mrycheiniog a Maesyfed fod targed ariannol y gronfa leol wedi'i chyrraedd.
Dywedodd Mr Siôn hefyd fod lleoli'r digwyddiad ar safle'r Sioe Frenhinol wedi arbed rhywfaint o arian i'r trefnwyr, ond eu bod wedi gwario "arian sylweddol" er mwyn gosod y Pafiliwn yn un o'r siediau parhaol.
Mae Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â'r ardal am y tro cyntaf ers 1978.
"Ma' nhw 'di neud yn ardderchog mewn gwirionedd," dywedodd Mr Siôn am ymdrechion y pwyllgor ariannol lleol.
"Ychydig o bobl sy'n byw ym Mrycheiniog a Maesyfed, heb sôn am Gymry Cymraeg [sydd] â'r traddodiad eisteddfodol felly o'n ni'n llwyr ymwybydol o'r her oedd o gwmpas yr holl fater o ddod â'r Eisteddfod yma.
"Maen nhw yn sicr yn griw bach ond maen nhw wedi codi'r arian, maen nhw 'di cyrraedd y nod o dros £100,000 felly 'dan ni'n ddigon hapus."
Dywedodd Mr Siôn wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fod rhywfaint o arbedion wedi bod yn bosib o ganlyniad cynnal yr ŵyl ar safle sydd ag adeiladau parhaol.
"Yn sicr mae 'na arbedion - yn amlwg mae'r adeiladau lan gyda rhai - 'dan ni 'di agor y drws a 'na fe, mae popeth yn barod.
"Ond gyda'r pafiliwn a gyda llefydd eraill... 'dan ni 'di gwario'n sylweddol i droi sied defaid i fod yn bafiliwn.
"Mewn gwirionedd 'dan ni 'di gwario mwy ar y pafiliwn 'leni na beth fydden ni ar adegau eraill felly mae'n swings and roundabouts gyda'r gwariant."
'Carreg sylfaen'
Yn ystod y gynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Stephen Mason fod yr ŵyl eisoes wedi llwyddo i gynyddu ymwybyddiaeth o Gymreictod yn yr ardal.
Ychwanegodd fod brwdfrydedd pobl yr ardal wedi bod yn anhygoel, ac y byddai ymweliad yr Eisteddfod yn "gosod carreg sylfaen i ddatblygu'r iaith ac ymwybyddiaeth o'r Urdd i'r dyfodol".
'Ni eisoes wedi gweld cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o'r Urdd ac o'r Gymraeg lle nad oedd dim o bosib yn bod o'r blaen," meddai.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams - sydd hefyd yn AC Brycheiniog a Maesyfed - fod gan yr Urdd rôl bwysig wrth geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae'r Urdd wedi bod yn bwysig ym mywyd fy mhlant fy hunain, gan iddynt roi cyfle i blant ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd27 Mai 2018