Ymestyn cynllun cefnogi rhieni sydd â phlant mewn gofal
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n cynnig cefnogaeth i rieni plant sydd yn y system ofal yn cael ei ymestyn ledled Cymru.
Mae 'Reflect' yn cynorthwyo rhieni gyda materion fel atal cenhedlu, cartrefi, defnyddio sylweddau anghyfreithlon ac iechyd meddwl.
Fe ddechreuodd y cynllun yng Nghasnewydd yn 2016 cyn ymestyn i Flaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili'r llynedd.
Yn ôl Scarlett, sy'n fam sydd â'i phlant mewn gofal, mae'r cynllun wedi ei gwneud hi deimlo'n "gryfach".
"Mae'r cynllun yn fy ngalluogi i obeithio cael gyrfa dda, cartref da lle byddai'n hapus gyda rhywun yn y dyfodol. Dwi'n gobeithio i sawl peth newid," meddai.
"Dwi'n gobeithio yn y dyfodol bydd fy mhlant yn penderfynu chwilio amdana i pan fydden nhw'n 18 neu'n hŷn - ac yn hapus i ddarganfod bod eu mam yn fenyw barchus, a'i bod wedi newid er eu mwyn nhw a'i hun."
'Dioddef anawsterau'
Dywedodd Sally Jenkins, pennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd Cyngor Casnewydd: ""Nid cynllun dychwelyd plant na chynllun magu plant yw hwn - mae'n gynllun i drwsio ac i wella ar gyfer y merched.
"Mae'r rhan fwyaf o ferched sy'n colli eu plant yn y ffordd yma wedi dioddef nifer o anawsterau, neu brofi colled.
"Mae'n allweddol i ddarganfod ffordd o fyw ar gyfer y dyfodol er mwyn iddyn nhw allu cymodi ar gyfer eu hunain a dod â'r ymddygiad niweidiol i ben."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bydd y cyllid yn parhau wrth i'r cynllun gael ei ymestyn i weddill Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2017