Ailagor meithrinfa yng Ngheredigion saith mis wedi tân
- Cyhoeddwyd
Mae meithrinfa yng Ngheredigion gafodd ei difrodi yn sylweddol gan dân ffyrnig 'nôl ym mis Hydref yn paratoi i ailagor ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £500,000.
Fe gafodd y tân ym Meithrinfa'r Dyfodol ei achosi gan nam trydanol ar y llawr uchaf, ac fe gafodd rhannau helaeth o'r to ei ddifrodi'n llwyr yn hen ysgol Cellan ger Llanbedr Pont Steffan.
Cafodd cynlluniau'r perchennog i ailagor y busnes yn Neuadd Cellan dros dro eu hatal oherwydd gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru, a'r amser byddai'n cymryd i gofrestru'r lleoliad newydd.
Gyda dros 200 o blant ar lyfrau'r feithrinfa ar y pryd, fe gafodd y tân gryn effaith ar nifer o deuluoedd yn ôl y perchennog, Dwynwen Davies.
"Mae e wedi cael effaith mawr ar deuluoedd. Plant yn gorfod symud, a dim mater o brofi a mynd i ddewis meithrinfa arall, doedd dim dewis ond mynd," meddai.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r ardal. Mae rhai rhieni wedi rhoi lan eu gwaith am gyfnod o wyth mis ac wedyn yn dychwelyd 'nôl i'r gwaith wythnos nesaf, amser ni'n ailagor."
Cafodd diwrnod agored ei gynnal yn y feithrinfa ar ŵyl y banc, ac mae plant wedi bod yn ymweld â'r feithrinfa cyn yr agoriad swyddogol wythnos nesaf.
Yn ôl Ms Davies mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol.
"Mae cryn dipyn o rieni yn dod 'nôl i'r feithrinfa a hefyd o'r diwrnod agored cafon ni naw plentyn newydd yn troi lan ac maen nhw'n dechrau wythnos nesaf," meddai.
"Fi'n gwybod mai'r her fwyaf oll fydd cael y plant nôl, ond gan bwyll bach, fe wnewn ni fe."
'Hapus dod 'nôl'
Fe fydd merch fach Catrin Jones, Lili, o Lanbedr Pont Steffan yn dychwelyd i'r feithrinfa ar ddydd Llun.
"Fi'n hapus i ddod 'nôl eto a bydd hi 'nôl yn chwarae gyda phlant roedd hi chwarae efo cyn y tân," meddai Ms Jones
Yn ôl Helen Hopkins, cyfarwyddwr y feithrinfa, bydd gweld y drysau yn agor unwaith eto ar ddydd Llun yn "ryddhad anferthol".
"Mae yna fodlondeb mawr bod ni wedi gallu llwyddo i agor mewn cyn lleied o amser o ystyried y difrod sydd wedi bod," meddai.
"Mae'r ymdeimlad o berthyn i'r adeilad yn bwysig iawn a gwasanaethu ein teuluoedd ni a'r cariad sydd gyda ni tuag at y plant a bod ni'n gallu rhannu hynny unwaith eto yn rhoi boddhad mawr i ni gyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2017