Cipolwg ar ddillad o wardrob Ryan Davies

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ryan Davies yn perfformio Ar Hyd y Nos mewn rhaglen arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi 1975

Roedd Ryan Davies yn enwog am ei lais hyfryd, ei ddoniau cerddorol a'i hiwmor ffraeth.

Ond rhywbeth arall mae'n siŵr mae pobl yn ei gofio amdano yw ei grysau lliwgar, loud.

Mae rhai o grysau Ryan bellach mewn ystafell wisgoedd cwmni theatr yng Nghastell-nedd, a chafodd Cymru Fyw sgwrs â'i ferch, Bethan Davies, ynglŷn â'u hanes:

Ffynhonnell y llun, Theatr na nÓg

O'dd Mam a fi yn chwilio am rywbeth, 'chydig o flynydde'n ôl, a dod ar draws y cryse - o'dd Mam wedi eu rhoi i gadw'n saff.

O'n i ar fwrdd rheoli Theatr na nÓg bryd 'ny, felly nes i benderfynu eu rhoi i'r cwmni theatr - ti ffili cadw popeth, ac o'dd neb mynd i wisgo nhw!

O'n nhw rili chuffed. O'dd e'n neis meddwl falle bod rhywun am gael defnydd ohonyn nhw, yn lle bo' ti jest yn cael gwared ar bethau.

Ffynhonnell y llun, Theatr na nÓg

Maen nhw mor flamboyant, gan bo' nhw mor 70s! Ond 'na be' o'dd pawb o'dd yn 'neud cabaret yn wishgo pryd 'ny - dress shirts, tei-bos, cufflinks, siwtiau melfed, ffrils, ac yn y lliwiau llachar 'na. Mae nhw mor anhygoel!

Ac os oedd e'n gwisgo fel menyw yn ei sioeau, o'dd e hyd yn oed fwy flamboyant, mewn plu a phethe - ond wrth gwrs, doedd e byth yn gwisgo fel'na pan oedd e adre!

Ffynhonnell y llun, Theatr na nÓg

Roedd rhain yn cael eu defnyddio bennaf mewn cabarets, gan mai gwisgoedd eraill a costumes oedd e'n eu gwisgo gan amlaf ar raglenni teledu, pan o'dd e'n g'neud sgetsys.

O'dd e ffili gwisgo'r un siwt bob sioe, felly os o'dd e'n gwisgo'r siwt las, bydde'n gwisgo'r crys glas, siwt burgundy 'da'r crys pin, a chrys brown 'da'r siwt frown.

Ffynhonnell y llun, Theatr na nÓg

Dwi'n cofio mynd fel teulu weithie pan o'dd e'n g'neud sioe rhywle, fel mewn gwesty yn y gogledd ac yn ei wylio'n perfformio yn y dillad yma - dillad fyse tadau pobl eraill ddim yn eu gwisgo! O't ti jest yn dod yn gyfarwydd ag e.

Ac wrth gwrs, do'dd e ddim yn gweithio orie'r un peth â thadau eraill chwaith. Ond o'dd e jest yn normal i ni.