Gruffydd Wyn ddim yn ennill Britain's Got Talent

  • Cyhoeddwyd
Gruffydd WynFfynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Gruffydd Wyn yn canu yn rownd derfynol Britain's Got Talent

Doedd perfformiad "anhygoel" Gruffydd Wyn Roberts yn rownd derfynol Britain's Got Talent ddim yn ddigon iddo ennill y gystadleuaeth.

Roedd y gynulleidfa a'r beirniaid ar eu traed ar gyfer perfformiad Gruffydd, 22 oed o Amlwch, oedd yn fyw ar ITV1 nos Sul. Fe ganodd Perfect Symphony gan Ed Sheeran ac Andrea Bocelli.

Cafodd ganmoliaeth uchel gan y pedwar beirniad - Amanda Holden, Simon Cowell, David Walliams ac Alesha Dixon - ac fe ddisgrifiwyd ei berfformiad fel un "perffaith" ac "anhygoel".

Gwylwyr y sioe oedd yn dewis yr enillydd, a hynny drwy bleidlais, a Lost Voice Guy oedd yn fuddugol - mi fydd yn mynd ymlaen i berfformio yn y Royal Variety Performance.

Fe wnaeth cannoedd o bobl leol wylio perfformiad Gruffydd ar sgrîn fawr ym Mhorth Amlwch.

Disgrifiad o’r llun,

Cannoedd wedi heidio i Borth Amlwch i gefnogi Gruffydd Wyn Roberts

Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y dorf roedd nain Gruffydd, Alwena

Fe enillodd Gruffydd le yn y ffeinal drwy bleidlais y gwylwyr yn y rownd gyn-derfynol nos Fercher yn yr Apollo, Hammersmith.

Fe ganodd Nelle Tue Mani, gafodd ei chanu gan Andrea Bocelli yn y ffilm Gladiator.

Roedd eisoes wedi swyno'r beirniaid yn y rownd gyntaf gyda'i berfformiad arbennig o Nessun Dorma.

Disgrifiad,

Wnaeth Gruffydd ddim ennill ond daeth y gymuned cyfan allan i'w gefnogi.

'Diolch am y gefnogaeth'

Cyn y ffeinal dywedodd Osian, brawd mawr Gruffydd: "Mae'r gefnogaeth mae Gruff wedi ei gael gan bobl Amlwch, pobl Ynys Môn a phobl Cymru wedi bod yn ffantastig".

"Mae'i fyd o wedi newid ar ei ben" ychwanegodd, "a rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb."

Gallwch wylio perfformiad Gruff yn y rownd derfynol nos Sul ar YouTube, dolen allanol.