Cannoedd yn Amlwch i gefnogi Gruffydd Wyn Roberts
- Cyhoeddwyd

Cannoedd wedi heidio i Borth Amlwch i gefnogi Gruffydd Wyn Roberts
Mae cannoedd wedi ymgynnull ym Mhorth Amlwch ar Ynys Môn i gefnogi canwr lleol sydd yn perfformio yn ffeinal rhaglen Britain's Got Talent nos Sul.
Fe enillodd Gruffydd Wyn Roberts ei le yn y ffeinal drwy bleidlais y gwylwyr yn y rownd gyn-derfynol nos Fercher.

Y dorf yn gwylio'r sgrîn fawr

Ymhlith y dorf mae nain Gruffydd
Roedd y gynulleidfa a'r beirniaid ar eu traed ar gyfer perfformiad Gruffydd, 22 oed, oedd yn fyw ar ITV1.
Amcangyfrifir bod cannoedd o bobl wedi dod at ei gilydd ym Mhorth Amlwch nos Sul i wylio'r rhaglen ar sgrîn fawr ac i gefnogi Gruffydd.
Cafodd Gruffydd le yn y rownd gynderfynol yn wreiddiol drwy swyno'r beirniaid gyda'i berfformiad arbennig o Nessun Dorma yn y rownd gyntaf.
Os bydd yn ennill y gystadleuaeth bydd yn cael perfformio yn y Royal Variety Performance.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dywedodd ei frawd mawr, Osian: "Mae'r gefnogaeth mae Gruff wedi ei gael gan bobl Amlwch, pobl Ynys Môn a phobl Cymru wedi bod yn ffantastig".
"Mae'i fyd o wedi newid ar ei ben" dywedodd Osian, "a rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb."
Mae Cyngor Môn wedi bod yn annog pobl sy'n bwriadu teithio i Borth Amlwch i ystyried teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i rannu ceir.
Dywedodd y datganiad: "Cynghorir i osgoi gyrru drwy ardal y Porthladd gan y bydd yr ardal yn brysur ac efallai y bydd y ffordd ar gau oherwydd y nifer o bobl sy'n mynychu."
Fe fydd Gruffydd yn un o wyth act fydd yn perfformio yn ffeinal Britain's Got Talent 19:30 nos Sul ar ITV 1.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2018