Gwahardd athro am 15 mis am gyffwrdd 'amhriodol'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Yr Olchfa
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Martin Williams yn athro yn Ysgol Yr Olchfa, Abertawe

Mae athro uwchradd wedi'i wahardd rhag dysgu am 15 mis am gyffwrdd disgyblion yn "amhriodol" a phwyntio pen laser yn eu hwynebau.

Clywodd panel disgyblu fod Martin Williams, 29, wedi cyffwrdd tair merch a dweud wrthyn nhw ei fod yn eu "caru".

Ond penderfynodd y panel nad oedd cymhelliant rhywiol i weithredoedd Mr Williams, oedd yn dysgu yn Ysgol Gyfun Yr Olchfa, Abertawe.

Fe wnaeth yr athro hefyd gyfaddef uwchlwytho marciau gwaith cwrs anghywir ar gyfer rhai disgyblion.

'Anonest'

Clywodd gwrandawiad y Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd fod yr honiadau yn erbyn Mr Williams wedi dod i'r amlwg yn dilyn trafodaeth mewn dosbarth arall yn yr ysgol.

Roedd tair merch wedi dweud eu bod wedi teimlo'n anghyfforddus pan wnaeth Mr Williams eu cyffwrdd, gydag un yn ei ddisgrifio fel dyn "annifyr".

Gwadodd Mr Williams, oedd yn dysgu Technoleg Gwybodaeth, ei fod wedi defnyddio pen laser yn y dosbarth, ond fe wnaeth y panel ddyfarnu ei fod wedi eu pwyntio at wynebu disgyblion.

Wrth ei wahardd rhag dysgu am 15 mis, dywedodd y panel fod Mr Williams wedi ymddwyn yn "anonest" a'i fod yn ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Mae gan Mr Williams, sydd o Lanelli, 28 diwrnod i apelio'r penderfyniad.